Yn Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru mae’n bwysig i ni ein bod yn gallu rhoi mynediad rheolaidd i aelodau at gymorth ymarferol, wedi’i ddarparu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant sydd eu hunain yn cynrychioli demograffeg amrywiol ac yn hyrwyddo pobl o gefndiroedd a hunaniaeth ymylol.
Dyma oedd ein Dosbarth Meistr Ysgrifennu Ffurf Hir, digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim a oedd yn agored i unrhyw un â diddordeb mewn dysgu mwy am sut i wefru eu hysgrifennu ffeithiol.
Fe’i cynhaliwyd ar 15 Mawrth, ac ymunodd bron i 100 o bobl i ddysgu am ddatblygu a chyflwyno syniadau, ymchwil ac awgrymiadau ysgrifennu cyffredinol. Daeth dau westai gwych i ymuno â ni: Suyin Haynes, cyn-bennaeth golygyddol gal-dem, cyhoeddiad gwobrwyog oedd yn ymroddedig i rannu persbectif pobl o liw o rywiau ymylol, a Charlotte Williams OBE, awdur Cymreig-Guyanese, academydd a beirniad diwylliannol sydd fwyaf adnabyddus yng Nghymru am ei chofiant arobryn Sugar and Slate. Roedd y ddau ohonyn nhw’n gallu cynnig cyngor gwerthfawr iawn – rydyn ni’n gobeithio bod y rhai a oedd yn bresennol yn teimlo eu bod yn cael eu hannog i barhau i weithio ar eu darnau a rhannu eu safbwyntiau’n hyderus a manwl.
Fel y soniodd ein Cyd-gyfarwyddwr Siriol, mae yna hysbyseb Volvo sy’n chwarae cyn yr Succession boblogaidd sy’n dweud, “Mae straeon gwych yn dechrau gyda theimlo’n ddiogel”, sef yr union beth rydyn ni’n anelu at ei gyflawni.
I’r rhai na allent ei wneud (a’r rhai a allai fod yn hoffi cael sesiwn gloywi) rydym wedi llunio 8 adborth allweddol o’r sesiwn i’ch helpu i gael y gorau o’ch ysgrifennu.
"Edrychwch ar yr hyn sy'n cael ei ddweud, ond yn bwysicaf oll, beth sydd ddim!"
1. Adnabod eich angerdd
Argymhellodd Suyin ysgrifennu tair stori oddi ar y newyddion neu ar gyfryngau cymdeithasol sy’n eich diddori. Dros amser efallai y byddwch chi’n dechrau gweld bod y straeon hyn yn rhannu edefyn tebyg – fel hyn gallwch chi ddechrau nodi’ch prif angerdd a’ch diddordebau, lle gallwch chi ddatblygu’ch llais. Atgoffodd hi ni i edrych ar yr hyn sy’n cael ei ddweud, ond yn bwysicaf oll, beth sydd ddim!
2. Talu gwrogaeth
Fel y dywed Charlotte Williams, anaml mai ni yw’r cyntaf i wneud unrhyw beth, felly gwnewch eich ymchwil a thalwch wrogaeth i’r hyn sydd wedi dod o’r blaen. Defnyddiwch waith pobl eraill fel sylfaen a darganfyddwch sut y gallwch chi ychwanegu gwerth at y sgwrs gan ddefnyddio eich persbectif unigryw eich hun.
3. Byddwch yn gryno
Mae Suyin yn ei chael hi’n ddefnyddiol ysgrifennu nut graf sydd yn ei hanfod yn cyfleu’r stori gyfan mewn un paragraff. Os ydych chi’n cael trafferth gwneud hyn, yna mae angen i chi gloddio’n ddyfnach, gan fod gormod yn digwydd o hyd ac mae angen i chi ei ddyrannu ymhellach.
4. Pwyll piau hi
Amlygodd ein dau westai sut mae angen i’ch stori gynnal cyflymder a strwythur. Meddyliwch am eich darn fel cyfres o straeon bach a sut maen nhw’n asio â’i gilydd i ffurfio cyfanwaith cydlynol.
5. Cadw’r darllenydd mewn cof
Gormod o syniadau? Tynnodd ein gwesteion sylw at ba mor bwysig yw hi i roi eich hun yn sefyllfa’r darllenydd. Ar gyfer pwy ydych chi’n ysgrifennu? A fyddent eisiau naratif cryno sy’n ymdrin â rhai pynciau, ond yn dda ac yn fanwl? Os felly, yna adolygwch a golygwch yr hyn sy’n bwysig ac yn berthnasol iddyn nhw, nid CHI.
6. Dewis a dethol
Siaradodd Charlotte yn bwerus iawn am sut, fel ysgrifenwyr, mae gennym ni gyfrifoldeb am yr hyn rydyn ni’n ei gynnig, yn ogystal â’r hyn sy’n cael ei ofyn gennym ni. Mae’n bwysig amddiffyn ein hunain. Dim ond oherwydd mai’r disgwyl yw ysgrifennu am rywbeth y mae eraill yn ei weld fel eich gwirionedd, eich gwirionedd chi yw eich gwirionedd a’ch penderfyniad chi yw sut rydych chi’n dewis rhannu.
7. Glynwch at y pennawd
Mae Suyin yn ei chael hi’n ddisgyblaeth ddefnyddiol i gael pennawd a rhagosodiad dwy linell y gallwch chi barhau i ddod yn ôl ato. Os byddwch chi’n symud i lawr y dudalen, ysgrifennwch hi ar nodyn post-it a’i gludo i’ch sgrin felly os ydych chi’n teimlo eich bod chi’n colli’ch ffordd, gall eich atgoffa beth sy’n bwysig a beth mae’ch stori yn ceisio ei gyflawni.
8. Deuparth gwaith yw ei ddechrau
Ac yn olaf, cytunodd pawb ei bod yn bwysig dechrau ysgrifennu. Peidiwch â chael eich dal yn ôl gan y meddwl amdano. Rhowch ysgrifbin ar bapur, neu flaenau bysedd ar y bysellfwrdd neu sut bynnag rydych chi’n cofnodi eich gwaith ysgrifennu. Ewch amdani. Gweld pa syniadau sy’n dod i’r amlwg, ac oddi yno gallwch chi adeiladu’ch naratif.
Dyma ddarlleniad pellach gan yr hyfryd Suyin Haynes:
- Darn gal-dem yn cynnwys Charlotte, ar newidiadau i’r cwricwlwm i Gymru
- Traethawd gan Katie, cyn-olygydd Person Cyntaf gal-dem, am hunaniaeth mewn ysgrifennu traethodau ffeithiol
- Gall y darn hwn o Poynter ar y nut graf, er ei fod braidd yn hen, fod yn eithaf defnyddiol wrth feddwl am graidd stori
- Awduron ffurf hir a argymhellir: Gary Younge (sydd â llyfr newydd allan), E. Alex Jung a Andrea Long Chu
Rydyn ni’n gobeithio mai’r digwyddiad hwn yw’r cyntaf o lawer ac, o ystyried yr ymateb cynnes, rydyn ni’n gwybod bod yna archwaeth. Fel bob amser, cadwch lygad yn ein cylchlythyr a’n digwyddiadau cymdeithasol am ddiweddariadau pellach. Tan y tro nesaf – ewch amdani gyda’r ysgrifennu!