Goresgyn rhwystrau
Ar ôl cael fy magu yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, roeddwn i’n teimlo o oedran ifanc mai bach iawn fyddai’r siawns i mi lwyddo mewn unrhyw ddiwydiant proffesiynol. Nid oherwydd nad oeddwn yn uchelgeisiol nac yn gweithio’n galed, ond oherwydd fy mod yn gwybod y byddai ble roeddwn i’n byw yn cyfyngu ar y cyfleoedd oedd ar gael i mi.
Nid yw’r lle rydyn ni’n cael ein geni yn ddewis y mae gennym ni unrhyw reolaeth drosto, ond i rai ohonom mae’n docyn anlwcus rydyn ni’n ei gario trwy ein bywyd fel oedolyn ac i mewn i’n gyrfa. Yn rhy aml, mae’r tocyn anlwcus hwn a roddir i bobl sydd wedi’u geni i dlodi yn amlinellu taith bywyd galed a di-baid, waeth beth fo’n galluoedd, ein talent neu hyd yn oed ein breuddwydion.
Bron i bum mlynedd yn ôl, pan mai clirio byrddau oedd fy mywoliaeth, penderfynais y byddwn unwaith ac am byth yn rhwygo fy nhocyn anlwcus. Es i’r brifysgol yn fy 30au a gadael gydag anrhydedd dosbarth cyntaf. Ar fy niwrnod graddio, roedd fy merch wyth oed yn gorfoleddu yn y gynulleidfa ac yn teimlo fy mod wedi llwyddo o’r diwedd.
Wrth geisio dileu’r ffiniau diangen a grëwyd gan yr ardal roeddwn i’n byw ynddi, sylwais yn gyflym fod y diwydiant yr oeddwn wedi dewis bod yn rhan ohono yn mynd i fod yn rhwystr mawr arall i mi fynd i’r afael ag ef. Roedd fy ngwreiddiau difreintiedig ac Epilepsi, sy’n fy rhwystro rhag gallu gyrru car, yn ei gwneud hi’n anodd i mi ddod o hyd i fy lle er fy mod wedi gweithio mor galed.
"Mae’r diwydiant newyddiaduraeth yng Nghymru a thu hwnt mewn dirfawr angen amrywiaeth ac i bobl dalentog sydd ar y cyrion ni ddylai fod yn frwydr i gael eich sylwi a’ch derbyn. "
Cyfarwyddwraig Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru
Ni ddylai ein tocynnau anlwcus, fel y’u gelwir, byth ein gwahanu, ond yn hytrach dylid eu gwisgo fel bathodyn o falchder oherwydd bod ein profiadau byw yn ein galluogi i ddod â rhywbeth ychydig yn fwy pwerus i’r bwrdd.
I mi, Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yw’r waywffon a’i haelodau yw’r pŵer a all ysgogi newid.