Ymunwch  â ni ysgogi newid 

Dewch yn aelod i helpu adeiladu newyddiaduraeth fwy cynhwysol yng Nghymru

Cofrestru am ddim
website divider image

Manteision aelodaeth

Cysylltu â newyddiadurwyr eraill

Rydym yn creu gofodau ar gyfer amrywiaeth o gysylltiadau wyneb yn wyneb a rhithwir, i’ch helpu i gwrdd a rhannu profiadau gyda newyddiadurwyr eraill o hunaniaethau neu gefndiroedd ymylol. Gyda’n gilydd rydym yn adeiladu cymuned, a hefyd yn adeiladu pŵer

Cyfleoedd proffesiynol

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd cyflogedig i alluogi aelodau i ddysgu a datblygu sgiliau a chyhoeddi neu ddarlledu eich gwaith. Gan weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant byddwn hefyd yn darparu cyfleoedd hyfforddi a mentora i helpu i roi eich gyrfa ar lwybr carlam

Cefnogaeth iechyd meddwl

Gwyddom y gall y diwydiant fod yn ofod anodd i’w lywio, yn enwedig i’r rhai ohonom sydd wedi cael ein gwthio i’r cyrion yn hanesyddol. Rydym yn cynnig cymorth llesiant proffesiynol i gydnabod y beichiau emosiynol ychwanegol a roddir ar bobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Dod yn bartner a gweithio gyda ni

A yw eich sefydliad yn angerddol am newyddiaduraeth gynhwysol? Eisiau ysgogi newid yn eich ystafell newyddion ond ddim yn siŵr sut? Eisiau cefnogi ein gwaith yn ariannol neu’n ymarferol? Rydym eisoes yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y diwydiant, felly cysylltwch â ni i drafod sut y gallem gydweithio, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych

Ein partneriaid