Ymunwch â ni ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, lansiad llyfr a pharti

23/09/2023 | Inclusive Journalism Cymru

Siapio dyfodol Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru a dathlu gyda ni!

Byddwn yn cynnal ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf ar ddydd Sadwrn 23 Medi 2023 – cyfle i gwrdd â’r tîm ac aelodau eraill, darganfod sut y gallwch chi gymryd rhan yn ein gwaith a dweud eich dweud ar sut olwg allai fod ar ddyfodol Newyddiaduraeth Gynhwysol.

I’w wneud hyd yn oed yn fwy arbennig, byddwn hefyd yn lansio ein llyfr newydd, Cymru & I, sef casgliad o ysgrifau am hunaniaeth Gymreig mewn partneriaeth â Seren Books. Bydd yn gyfle i gwrdd â’r awduron, eu clywed yn darllen a thrafod eu gwaith, a chael copi wedi’i lofnodi o’r llyfr.

Wedi hynny, cewch gyfle i ymlacio yn ein parti, gan gynnwys bwyd a diodydd am ddim ynghyd â sgwrs wych! Gan fod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod ein penwythnos Labordy Datblygu Cyfryngau Cynhwysol, rydym yn disgwyl y bydd yna dyrfa dda.

Fe’i cynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ond peidiwch â phoeni os na allwch ddod wyneb yn wyneb gan y byddwn yn sicrhau y gallwch ymuno ar-lein (cadwch lygad am ragor o fanylion).

Os hoffech i bwnc penodol gael ei drafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yna cysylltwch â ni. Rydym am sicrhau ei fod yn ddigwyddiad cydweithredol a bod eich llais yn cael ei glywed.

Pryd?

Dydd Sadwrn Medi 23ain, tua 5:30pm – 9:30pm.

Ble?

Canolfan Gelfyddydau Chapter,
Ffordd y Farchnad,
Caerdydd
CF5 1QE

Beth allaf ei ddisgwyl?

5:15pm – cyrraedd Chapter
5:30 – 7pm – CCB
7pm – 9:30pm – lansiad Cymru & I a pharti

Nid yn unig y bydd hwn yn gyfle anhygoel i chi helpu i lunio dyfodol Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru a rhwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r un anian – bydd mynychwyr y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn cael cyfle i dderbyn sesiwn saethu pen am ddim gyda’r ffotograffydd Mohamed Hassan.

Archebwch eich lle nawr

Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech yrru RSVP erbyn dydd Gwener 15 Medi fan bellaf.