Ai Democratiaeth yw Democracy?

06/10/2025 | Inclusive Journalism Cymru

Bu’r cysyniad o ddemocratiaeth yn bwysig i mi erioed, o bosib gan i mi gael fy magu mewn teulu lle’r oedd dadlau cyson o amgylch y bwrdd bwyd, ble oeddwn i, yn fyfyrwraig Gwleidyddiaeth Lefel A, yn chwyrn fy marn fod y Deyrnas Unedig (DU) – a Chymru – yn ddemocrataidd. Byddwn yn rhestru rhwystrau a gwrthbwysau ein cyfansoddiad, ac yn dadlau’n frwd fod y system bleidleisio yn deg, heb allu deall nac ystyried yr awgrym y gallai gwlad lle meddai pob person dros 16 oed ar yr hawl i bleidleisio, beidio a bod yn ddemocrataidd. Nawr, rwy’n aml yn dymuno dychwelyd at y feddylfryd naïf a diniwed hwnnw, ond yn anffodus, gwn erbyn hyn, i gam-ddyfynnu Gandhi, nad yw democratiaeth yn y DU yn ddim mwy na syniad da iawn. 

​​Bryd hynny, roeddwn i’n hollol argyhoeddedig mai system ddemocrataidd y DU a “Mam pob Senedd” oedd y safon aur. Fel triciau hud a lledrith consuriwr, roedd yn edrych yn berffaith o bersbectif allanol, ond o edrych yn agosach, gwelais fod trapddrysau a drychau yn hwyluso ei dric. Gwrthbrofir y darlun o ddemocratiaeth alluogwyd gan rwystrau a gwrthbwysau a system bleidleisio deg gan y pethau na welir, y pethau sydd yn gudd i ni. Mae democratiaeth iach, weithredol angen sawl rhan allweddol; mae’n ddibynnol ar sut mae cymdeithas yn derbyn gwybodaeth; sut yr adroddir ein straeon; a phwy gaiff adrodd y straeon. Dylai’r straeon hyn alluogi cyrraedd casgliadau a phenderfyniadau gwybodus. 

I ddarllen newyddion y dydd, tueddaf agor ap BBC Cymru Fyw. Beth sy’n mynd ymlaen yn y byd? Mae’r teitl cyntaf yn darllen “‘Hunllef’ gan fod newidiadau byr rhybudd i drafnidiaeth ysgol i Aberystwyth”. Yn ogystal, ar y dudalen flaen, gwelaf stori ddychrynllyd am Reform yn danfon llythyrau gwrth-Lafur ar ddiwrnod angladd AS Llafur. Pe bawn i’n Gymro di-gymraeg yn agor fersiwn Saesneg o’r ap BBC Wales ni fyddai yr un o’r straeon yma wedi ymddangos ar eu tudalen flaen ”ddiduedd”. Roedd yr un peth yn wir ochr arall y geiniog, gan nad oedd straeon oedd ar y dudalen Saesneg yn ymddangos ar fersiwn Cymraeg yr ap Newyddion.

Pwy sydd i ddweud fod y straeon hyn yn ddibwys i grwpiau ieithyddol penodol o fewn ein poblogaeth? Pam mae hi’n bosib i hyd yn oed y British Broadcasting Corporation i gael anghysondebau yn y newyddion mae nhw’n ei ddarlledu i ddinasyddion yn ôl iaith? Oes yna unrhyw syndod bod ardaloedd lle mae’r mwyafrif yn siarad Cymraeg yn pleidleisio i bleidiau gwleidyddol gwahanol? Dydy’r gwahaniaethau yma ddim yn ddewisiadau golygyddol yn unig, mae nhw’n adlewyrchu’r ffaith bod holl benderfyniadau Cymru am ddarlledu yn digwydd yn Llundain. Heb ddatganoli darlledu, ni all Gymru benderfynu a siapio’r ffordd mae ein straeon ein hunain yn cael eu hadrodd.

"Ni ddylai cael cyfryngau cynhwysol fod yn docenistaidd, gan mai dyna yw sylfaen democratiaeth weithredol."

Mirain Owen

Ysgrifennwr

Os ystyriwn bod democratiaeth yn golygu bod pob pleidlais yn cael ei gyfrif; pob llais yn cael ei glywed; y cyfryngau yw ein huchelseinydd. Ar hyn o bryd mae cymaint o leisiau Cymraeg yn cael eu colli. Ni ddylai cael cyfryngau cynhwysol fod yn docenistaidd, gan mai dyna yw sylfaen democratiaeth weithredol. Mae’n golygu bod y straeon rydyn ni’n eu hadrodd, yr iaith rydyn ni’n ei defnyddio, a’r bobl rydyn ni’n cynnig platfform iddyn nhw yn adlewyrchu realiti llawn ein Cymru, nid y darnau sy’n ffitio’n daclus i gylch newyddion Llundain-ganolog yn unig. 

Er mwyn cael cyfryngau sydd wir yn gynhwysol yng Nghymru, rhaid dechrau gyda chydraddoldeb ieithyddol. Dylai’r ddwy iaith sefyll gyda’i gilydd yn rhan o’n sgwrs genedlaethol, nid mewn hierarchaeth lle mae un yn cael ei drin fel rhagosodiad diofyn a’r llall fel rhyw fath o ychwanegiad diwylliannol. Mae newyddion cynhwysol go iawn yn golygu bod stori newydd yng Ngwynedd yn cael ei hadrodd gyda’r un brys a dyfnder yn Gymraeg ac y mae yn Saesneg. Golyga hyn hefyd degwch daearyddol. Yn rhy aml, mae’r cyfryngau Saesneg yng Nghymru yn rhoi gor-ffocws ar Gaerdydd ac ar Dde-ddwyrain Cymru, sy’n gadael ardaloedd gwledig a chymunedau ôl diwylliannol wedi eu tan-adrodd. Mae hi’n hollbwysig bod profiadau pobl o Geredigion, Ynys Môn ac Ystradgynlais yn cael eu trin fel rhan annatod o’r stori genedlaethol, yn y ddwy iaith.

Yn ogystal, golyga hyn ystafell newyddion gynhwysol. Byddai newyddiaduraeth gwir gynhwysol yn cael ei siapio gan newyddiadurwyr o gefndiroedd dosbarth gweithiol, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, a’r rheini sydd wir yn cynrychioli pobl Cymru. Heb yr ystod hwn o safbwyntiau, mae’r straeon mewn perygl o fod yn siambr adlais o straeon cwrtais, rhagweladwy sy’n ddall i’r realiti sy’n bodoli y tu allan i’w furiau ei hun. 

Ni fyddai datganoli darlledu yn nodyn cyfansoddiadol yn unig, dyma’r fecanwaith a allai alluogi’r weledigaeth gynhwysol gan rymuso ein newyddiadurwyr. Gyda rheolaeth dros gomisiynu, ariannu, a blaenoriaethu golygyddol rhyddhaol, byddai’n bosib adeiladu cyfryngau i adlewyrchu’r Gymru yr ydym yn byw ynddi. Byddai grym darlledu datganoledig yn caniatáu i ni fuddsoddi mewn newyddiaduraeth leol, meithrin doniau newydd, a sicrhau na hidlir sylw ar faterion Cymreig trwy brism blaenoriaethau San Steffan.

Mae Mirain yn fyfyrwraig y gyfraith, yn wreiddiol o Abertawe ac yn awr yn astudio ym Manceinion. Gallwch ddilyn hi ar Instagram