Pan gychwynnwyd Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, ein gweledigaeth oedd rhwydwaith cymedrol, anffurfiol yn cynnig cefnogaeth a chysylltiad gan gymheiriaid. Eto i gyd, trawsnewidiodd yr angen aruthrol yn y gymuned ein gweledigaeth, gan ei gwneud yn amlwg bod llawer yn ystyried Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru fel ased anhepgor. Ysgogodd hyn ni i ffurfioli ein menter, gan bwysleisio tryloywder, llywodraethu cadarn, a chynaliadwyedd.
Mae Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru bellach yn Gwmni Buddiannau Cymunedol ac, fel tîm, rydym wedi ymrwymo i wasanaethu anghenion newyddiadurwyr ymylol yng Nghymru – ein cymuned.
I wneud hynny, gwnaethom dreulio amser yn gweithio gydag Opus Independents, menter gymdeithasol sy’n canolbwyntio ar yr union fath o newid systemig yr ydym am ei gyflawni, i ddatblygu’r Fframwaith Strategol yr ydym yn ei rannu yma. Mae’n amlinellu ein:
- Egwyddorion Llywodraethu a Phenderfynu
- Llwybrau Aelodaeth
- Theori Newid
- Strategaeth Ymlyniad, Partneriaeth ac Incwm a Enillir a
- Rhagamcanion Cyllideb a Chyllid
Mae Theori Newid, yn arbennig, yn nodi ein gwerthoedd a’n hegwyddorion ac yn llywio popeth a wnawn. Nid ydym yn honni ein bod yn berffaith, ac rydym yn gwybod na fyddwn yn cael popeth yn iawn, ond rydym yn gobeithio y bydd y fframwaith hwn yn helpu aelodau i ddeall y gwaith rydym yn ei wneud, pam rydym yn ei wneud a sut y gallwch gymryd rhan.
Ond dyma ddechrau sgwrs, yn hytrach na diwedd. Rydym am i hon fod yn ddogfen fyw, wedi’i llunio gan ein haelodau. Mae croeso bob amser i chi gysylltu â ni ar info@inclusivejournalism.cymru os oes gennych unrhyw syniadau, cwestiynau neu awgrymiadau.
Cliciwch yma i weld y dogfennau llawn.