Dewch i gwrdd â phobl greadigol eraill a siapio dyfodol Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru!
Bydd ein hail Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’n Digwyddiad Cymdeithasol yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, 15 Mawrth 2025 – cyfle i gwrdd â’r tîm ac aelodau eraill, cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau trwy gydol y diwrnod, a dylanwadu ar ddyfodol Newyddiaduraeth Gynhwysol.
Pryd?
Dydd Sadwrn 15 Mawrth, 2:00pm – 7:30pm.
Ble?
The Sustainable Studio,
59-61 Tudor St,
Caerdydd,
CF11 6AD
Mae’r lleoliad yn hygyrch i gadeiriau olwyn gyda rampiau. Dim ond y llawr gwaelod y byddwn yn ei ddefnyddio.
Beth allaf ei ddisgwyl?
- 2:00pm – 3:30pm – Rhwydweithio Gyda Niwrowahaniaeth
Clywch gan ein siaradwyr gwadd arbennig ar sut i wneud cysylltiadau gwerthfawr (hyd yn oed os yw cymdeithasu yn teimlo fel her) a rhowch yr awgrymiadau hyn ar waith.
- 4:00pm – 5:00pm – Arddangos a Holi ac Ateb
Byddwn yn arddangos darn sain Soma Ghosh – ymateb creadigol i ddeunydd archif – ynghyd â sesiwn holi ac ateb am bodlediadau. - 5:15pm – 6:15pm – Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Diweddariadau ar yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf a chyfle i rannu eich barn ar yr hyn yr hoffech i ni ei flaenoriaethu. - 6:15pm – 7:30pm – Rhannu pryd ac Iftar
Cinio blasus, am ddim, a fydd hefyd yn cael ei gynnig fel Iftar i nodi Ramadan.
Rydym yn gwbl ymwybodol y gallai mynychu pob gweithgaredd fod yn llethol, felly hoffwn eich sicrhau bod presenoldeb yn gwbl ddewisol ac mae croeso i chi ddewis a dethol fel y mynnwch. Nid oes unrhyw rwymedigaeth i aros tan y diwedd a gallwch ddewis y darnau sydd fwyaf addas i chi / eich gallu.
Mewn manylder
Yn ein sesiwn ‘Rhwydweithio Gyda Niwrowahaniaeth’ byddwch yn cael yr awgrymiadau gorau gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, yn ogystal â chyfle i roi cynnig arnynt eich hun. Gwyddom fod rhwydweithio yn hollbwysig i ddod o hyd i gyfleoedd newydd yn y sector creadigol, ond bod llawer ohonom yn ei chael hi’n anodd – boed hynny oherwydd ymennydd niwro-ddarwahanol, gorbryder cymdeithasol, neu swildod cyffredinol – mae’r sesiwn hon wedi’i chynllunio i roi’r sgiliau a’r hyder i chi gallwch chi gymysgu’n rhwydd. Ymhlith y siaradwyr mae Jannat Ahmed (Lucent Dreaming), Rosie Higgins (Unquiet Media) a Sara Robinson (Neurodivergent Friendly Cardiff).
Er mwyn sicrhau bod y digwyddiad yn hygyrch, rydym wedi partneru â Nurologik i greu NuroCove h.y. gofod synhwyraidd i oedolion sydd am ddim i bawb ei ddefnyddio trwy gydol y prynhawn a gyda’r nos. Mae’r gofod gwib hwn yn cynnwys seddau cyfforddus, dodrefn meddal, eitemau i gynorthwyo gyda hunanreoleiddio, datrysiadau goleuo priodol a mwy. Bydd tîm NGC hefyd yn mynychu cwrs hyfforddi fel ein bod yn fwy ymwybodol o sut i ddiwallu anghenion niwro-wahanol. Ac hefyd – mae gan bawb sy’n mynychu’r opsiwn i gael eu paru â ‘bydi’ ar gyfer y sesiwn rwydweithio gyfan a fydd yn rhannu eu diddordebau a phwy y gallwch chi rwydweithio hefo.
Byddwn yn cyflwyno darn sain gan Soma Ghosh, un o dri aelod buddugol yr ydym yn comisiynu eu gwaith o dan y prosiect ‘Deall Ein Gorffennol i Adnabod Ein Presennol’, mewn partneriaeth â’r Archif Ddarlledu Gymreig. Disgwyliwch fewnwelediad syfrdanol i hanes Cymru trwy goed chwedlonol a chysylltiadau Bengali. Bydd ein Cyd-gyfarwyddwr a chyd-grëwr Damian Kerlin yn ymuno â Soma wrth iddynt drafod y broses o wneud podlediad.
Yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol byddwn yn agor y llawr i’n haelodau i rannu eich barn ar sut y gallem fod yn gwneud newyddiaduraeth yn fwy cynhwysol. Os hoffech i bwnc penodol gael ei godi yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, yna cysylltwch â ni. Rydym am sicrhau ei fod yn ddigwyddiad cydweithredol a bod eich llais yn cael ei glywed. (Peidiwch â phoeni os na allwch gyrraedd Caerdydd serch hynny, gan ein bod yn cynllunio digwyddiadau yng nghanolbarth a gogledd Cymru, lle byddwn yn arddangos ein cydweithrediad ag Archif Ddarlledu Cymru a lle byddwch hefyd yn cael y cyfle i rannu eich barn. Cadwch lygad am gyhoeddiadau pellach.)
Gyda chymorth ein ffrindiau yn Now in a Minute Media a Fforwm Ieuenctid Pafiliwn Grange, byddwn yn rhannu pryd gyda’n gilydd wrth arsylwi Iftar, wrth i’r digwyddiad ddigwydd yn ystod Ramadan. Gobeithiwn y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i aelodau sy’n dathlu Ramadan fynychu, a bydd hwn wrth gwrs yn ddathliad cynhwysol sy’n agored i bob aelod.
Ac os nad yw hynny’n ddigon, bydd y ffotograffydd o fri rhyngwladol Mohamed Hassan yn arddangos rhai o’i luniau anhygoel yn y lleoliad, yn ogystal â thynnu lluniau trwy gydol y digwyddiad. Mae hefyd yn cynnig headshots am ddim i hyd at bedwar o fynychwyr – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn llenwi ein ffurflen gofrestru i gymryd rhan yn y raffl. (Gallwch weld rhai enghreifftiau a wnaeth Mo ar gyfer ein gwefan).
Noder y bydd gêm rygbi Cymru v Lloegr yn Stadiwm Principality o 4:45pm ar ddiwrnod y digwyddiad. Mae hyn yn golygu y bydd teithio yn debygol o fod yn llawer mwy gorlawn nag arfer, felly mae’n syniad da cynllunio ymlaen llaw. Byddwn yn anfon nodyn at bawb sy’n bresennol cyn y digwyddiad gan gynnwys cyngor teithio ac awgrymiadau.
Archebwch eich lle nawr
Cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech RSVP erbyn dydd Gwener 7 Mawrth fan bellaf.
Cofrestrwch ar gyfer ein dosbarth meistr am ddim ar niwrowahaniaeth mewn newyddiaduraeth
Ymunwch â'n dosbarth meistr am ddim gyda newyddiadurwyr ac arbenigwyr niwrowahaniaeth Beth Rees, Nick Ransom a Sara Robinson
Archebwch eich tocyn