Yn Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, credwn fod straeon pwy sy’n cael eu hadrodd, a sut, yn llunio’r byd yr ydym yn byw ynddo. Mae ein gwaith yn bodoli i herio naratifau niweidiol, canoli lleisiau sydd wedi’u hymylu, ac adeiladu cyfryngau sy’n adlewyrchu ac yn cynrychioli pob un ohonom.
Cyhoeddiad ein Cymrodoriaeth Cynefin yw’r cam diweddaraf yn y genhadaeth hon. Ond mae’n rhan o fudiad llawer mwy yr ydym yn ei arwain i yrru newid systemig drwy adrodd straeon mwy cynrychioliadol a chynhwysol.
Mewn dim ond tair blynedd rydym wedi:
- Cyhoeddi Cymru & I ein llyfr o draethodau ffeithiol yn adrodd straeon anhysbys am Gymru a Chymreictod
- Partneru â QueerAF, i gynnig cyfleoedd mentora ac adeiladu portffolio i newyddiadurwyr LHDTCIA+ sydd ar ddechrau eu gyrfa
- Lansio’r Labordy Datblygu Cyfryngau Cynhwysol, rhaglen arloesol o gefnogaeth i newyddiadurwyr sydd wedi’u hymylu i ddatblygu’r sgiliau i redeg busnesau newyddiaduraeth gynaliadwy
- Creu Canllaw Recriwtio dan arweiniad aelodau sydd bellach yn cael ei ddefnyddio fel model arfer gorau ledled y byd
- Rhedeg Deall Ein Gorffennol i Adnabod Ein Presennol gydag Archif Ddarlledu Cymru – gan gynnig comisiynau creadigol a digwyddi`adau arddangos i aelodau o bob cwr o Gymru
- Helpu i lunio polisi newyddiaduraeth Cymru trwy Fapio Newyddiaduraeth Buddiant Cyhoeddus yng Nghymru – sydd wedi llywio camau gweithredu’r llywodraeth i gefnogi cynhwysiant ac arloesedd.
Mae ein gwaith yn gwneud gwahaniaeth. Mae Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru bellach yn cael ei chydnabod fel llais byd-eang dros newid. Ond nid yw newid systemig yn digwydd dros nos – mae’n cymryd dyfalbarhad, adnoddau ac ymrwymiad a rennir i weithredu nawr.
"Mae pob rhodd sengl - mawr neu fach - yn ein helpu i chwyddo lleisiau sy'n rhy aml yn mynd heb eu clywed."
Gyda’ch help chi gallwn:
- Gadw Cymrodoriaeth Cynefin ar waith am flynyddoedd i ddod.
- Lansio mentrau newydd, arloesol sy’n rhoi’r pŵer i gymunedau sydd wedi’u hymylu adrodd eu straeon eu hunain.
- Creu’r math o newyddiaduraeth sy’n adeiladu cymunedau tecach, iachach a mwy cysylltiedig.
Os ydych chi’n sefydliad neu’n ariannwr:
Cysylltwch ag info@inclusivejournalism.cymru i archwilio sut y gall eich cefnogaeth greu newid parhaol.
Os ydych chi’n unigolyn:
Mae pob rhodd sengl – mawr neu fach – yn ein helpu i chwyddo lleisiau sy’n rhy aml yn mynd heb eu clywed. Gallwch gyfrannu yma ac ymuno â’r mudiad dros newyddiaduraeth sy’n gwasanaethu pawb.
Oherwydd ni all yr un ohonom adeiladu’r dyfodol sydd ei angen arnom ar ein pennau ein hunain. Rydym yn gryfach gyda’n gilydd.