Pan adewais y nyth i fynd i’r Brifysgol ym Manceinion, derbyniais rybudd gan sawl un am deimlo hiraeth. Awgrymwyd y byddwn yn gweld eisiau Cymru, fy nheulu, fy ffrindiau a’r dirwedd gyfarwydd oedd yn gartref i mi. Roeddwn yn hanner disgwyl wylo wrth wylio car coch fy nhad yn pylu i’r pellter. Bu’n dipyn o syndod i mi, felly, i ganfod fy mod wedi teimlo hiraeth ar hyd fy oes.
Clywir yn aml na ellir cyfieithu’r gair hiraeth; ei fod yn disgrifio dyhead am Gymru sy’n mynd yn ddyfnach na cholli cartref. Ond nid Cymru ddaearyddol yn unig oeddwn i’n dyheu amdani. Mewn gwirionedd, roedd y Cymreictod yr oeddwn yn awchu amdano yn rhywbeth nad oedd erioed wedi bodoli’n llawn yn ystod fy oes. Yr hyn roeddwn i’n ei golli oedd y posibilrwydd o fyw yn Gymraeg. Byd lle nad oedd y Gymraeg yn rhywbeth i’w hamddiffyn, ei hegluro, nac i fynd ati’n fwriadol i’w chanfod, ond yn syml yr iaith wnâi i fywyd wneud synnwyr drwyddi. Y peth rhyfedd yw fy mod wedi treulio blynyddoedd yn chwilio am y byd hwnnw tra’n dal i fyw yng Nghymru. Nid gadael Cymru a greodd y teimlad; ond gwnaeth y weithred o adael Cymru ei wneud yn fwy amlwg.
Y gwir yw nad oes byd uniaith Gymraeg yn bodoli yn unman heddiw, hyd yn oed yng Nghymru. Bu cyfnod pan oedd cymunedau cyfan yn byw bron yn llwyr drwy’r Gymraeg, ond mae’r rhan fwyaf o’r cymunedau hynny wedi diflannu. Does dim amheuaeth bod y Gymraeg yn dal yn fyw, yn cael ei defnyddio a’i charu, ond mae’n bodoli wrth ochr rhywbeth mwy, swnllyd a dominyddol. Nid realitit diwylliannol yn unig yw hynny chwaith, mae’n wleidyddol. Nid yw darlledu wedi’i ddatganoli, ac mae penderfyniadau am gyfryngau Cymraeg yn dal i gael eu gwneud y tu allan i Gymru gan bobl sydd ddim yn byw yn y dirwedd ieithyddol y maent yn ei siapio. Hyd yn oed mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, mae’r rhan fwyaf ohonom yn symud rhwng ieithoedd drwy’r amser, yn asesu pwy sydd yn yr ystafell cyn siarad, yn cyfieithu ein hunain, yn addasu. Mae’r syniad o leoliad lle mae’r Gymraeg yn ddiofyn ac yn ddiamheuol yn teimlo fel byd hyd a lledrith.
Ac eto, roeddwn wedi profi’r byd hwnnw o’r blaen. Nid ar unrhyw stryd na thref, ond drwy’r cyfryngau.
Wrth feddwl am fy mhlentyndod, credaf i mi dreulio rhan helaeth o fy mywyd yn chwilio am fychanfyd Cymraeg cyn i mi hyd oed feddu ar yr iaith i’w ddisgrifio. Byd bach Cymraeg – gofodau go iawn neu ddychmugol lle mae’r Gymraeg yn teimlo fel canolbwynt naturiol i bob peth. Cefais deimlad ohono mewn sawl lle: mewn clybiau ieuenctid, ar faes yr Eisteddfod, yng nghoridorau Pantycelyn ac, yn ei chyfnod, ar Twitter Cymraeg. Ond lle’i profais fwyaf cyflawn oedd y rhai a luniwyd yn fwriadol, yn ffug ar ein cyfer. Ym mydoedd Pobl y Cwm a Rownd a Rownd, ym mhapurau bro, ar Radio Cymru ac yng nghorneli rhyfeddol y rhyngrwyd Cymraeg.
"Yn aml, sonir am y cyfryngau fel petaent yn adlewyrchu diwylliant cymunedau. Ond i gymunedau ieithoedd lleiafrifol, mae’n gwneud mwy, mae’n creu diwylliant a chymunedau."
Ysgrifennwr
Yn aml, sonir am y cyfryngau fel petaent yn adlewyrchu diwylliant cymunedau. Ond i gymunedau ieithoedd lleiafrifol, mae’n gwneud mwy, mae’n creu diwylliant a chymunedau.
Yn ystod fy amser yma, sylweddolais bod Manceinion yn llawn diasporaoedd gweladwy. Gan faddau’r cyffredinoli, mae Gwyddelod, er enghraifft, yn treulio amser mewn tafarndai; ac yn mwynhau diwylliant y gellir cerdded i mewn iddo. Mae Cymreictod yn teimlo’n wahanol. Diflannodd llawer o’r sefydliadau a arferai fod yn ganolbwynt i gymunedau Cymraeg yn ninasoedd Lloegr, neu newidiwyd eu pwrpas. Nid oes cornel Cymreig amlwg ym Manceinion, na phrif stryd Gymreig, na man lle gallaf gael sgwrs ar hap yn Gymraeg ac mae’r diwylliant capelyddol yn amherthnasol i lawer.
Yn hytrach, mae’r bydoedd Cymraeg rwy’n byw ynddynt yn cael eu cyfryngu. Gwrandawaf ar Radio Cymru wrth gerdded i ddarlithoedd, yn darllen Golwg360 rhwng apwyntiadau. Daw bychanfyd Cymraeg yn fyw yn fy nghlustffonau ar bob taith bws gyda playlists Spotify yn llawn artistiaid Cymraeg. Dyma f’atgoffa pam ei bod yn bwysig bod gofodau Cymraeg yn cael eu creu, ac nad ydym yn disgwyl i rhywun arall eu creu nhw. Rwy’n ymuno â chyfarfodydd ar-lein gyda phobl ledled Cymru. Weithiau byddaf yn gwrando ar bodlediad Cymraeg a recordiwyd yn Awstralia, Rhaglen Cymru, sy’n ein hatgoffa fod y bychanfyd Cymraeg yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau Cymru. Rwy’n dilyn grwpiau Facebook sydd rywsut yn llwyddo i fod yn anhrefnus, yn gefnogol ac yn hynod Gymreig ar yr un pryd.Yn aml, cânt eu trin fel dirprwyon i gymuned, fel pe baent yn llai real na mannau cyfarfod wyneb yn wyneb. Ond rwyf wedi dod i gredu’r gwrthwyneb. I lawer o siaradwyr Cymraeg, dyma yw’r gymuned.
Ystyriwch Rwydwaith Menywod Cymru, er enghraifft — grŵp Facebook a allai fod ymhlith y llefydd mwyaf Cymreig ar y rhyngrwyd. Wrth sgrolio drwyddo, fe welwch gwestiynau sy’n swnio fel pe baent wedi’u tynnu o gomedi. Mae rhywun yn chwilio am gi col; rhywun arall eisiau cyngor ar wneud bara brith; rhywun yn ceisio cofio gair Cymraeg; a’’r trafodaethau’n ddoniol, yn chwilfrydig, yn ymarferol ac yn gwbl gyffredin. A dyna’n union sy’n eu gwneud mor bwysig. Mae’r Gymraeg yn bodoli yno nid fel trysor diwylliannol i’w warchod, ond fel iaith y mae pobl yn ei defnyddio wrth fyw eu bywydau.
Mae’r un peth yn wir am newyddiaduraeth Gymraeg. Mewn erthygl flaenorol i Inclusive Journalism Cymru, ysgrifennais am bapurau bro a’r ffordd y maent yn troi bywydau cyffredin yn straeon sydd werth eu cofnodi. Ond gwnânt rywbeth arall hefyd. Maent yn creu byd lleol lle mae’r Gymraeg yn cael ei chymryd yn ganiataol. Byd lle gall yr iaith gynnwys popeth: canlyniadau pêl-droed, cyngherddau ysgol, anghydfodau cynllunio, angladdau, digwyddiadau codi arian a chlecs y pentref. Mae darllen papur bro yn aml yn teimlo fel camu am eiliad i mewn i fersiwn o Gymru lle mae’r Gymraeg yn y canol yn hytrach nag ar yr ymylon.
Dyna hefyd sy’n fy niddori am raglenni fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd. Nid dramâu yn unig ydynt. Maent yn weithredoedd o adeiladu byd. Cynigia eu cymunedau ffuglennol rywbeth na chaiff llawer o siaradwyr Cymraeg ei brofi’n gyson yn eu bywydau bob dydd: byd cymdeithasol sy’n gweithredu’n gyfan gwbl drwy’r Gymraeg. Nid oes neb yn ymddiheuro am ei siarad. Nid oes neb yn newid iaith hanner ffordd drwy sgwrs. Nid oes neb yn gorfod cyfiawnhau ei bodolaeth. Nid realaeth lwyr yw’r canlyniad o reidrwydd, ond rhywbeth sydd yr un mor werthfawr: posibilrwydd.
Ond ni ddylai’r posibilrwydd hwnnw gael ei gyfyngu i ddwy opera sebon a llond llaw o raglenni. Ni all un sianel Gymraeg ysgwyddo pwysau cenedl gyfan ar ei phen ei hun. Os rhywbeth, mae bodolaeth y bydoedd ffuglennol hyn yn dangos pa mor daer yw’r angen am fwy o le, mwy o genres, mwy o arbrofi, mwy o fentro ac, yn syml, mwy nag un sianel.
Efallai mai dyna pam mae’r gofodau hyn yn dod yn benodol bwysig pan fydd pobl yn gadael Cymru. Maent yn caniatáu inni fyw o fewn fersiynau o fywyd Cymraeg sy’n gallu bod yn rhyfeddol o anodd ei ganfod hyd yn oed yng Nghymru ei hun.
Datgelodd Covid hyn mewn ffyrdd na ragwelodd llawer ohonom. Yn sydyn, roedd y cyfryngau Cymraeg a bywyd dinesig Cymreig yn fwy hygyrch nag erioed. Symudodd cyfarfodydd ar-lein. Aeth digwyddiadau’n hybrid. Daeth cymunedau a arferai fod ynghlwm wrth ddaearyddiaeth yn gludadwy.
Hyd heddiw, rwy’n ymuno’n rheolaidd â chyfarfodydd Cymdeithas yr Iaith o Fangor… o Gaerdydd… o Aberystwyth… ac o Fanceinion. Gyda phaned wrth f’ymyl, rwy’n gwrando ar leisiau o bob cwr o Gymru. Er ein bod wedi’n gwasgaru mewn mannau gwahanol, am awr neu ddwy rydym yn rhannu’r un gofod ieithyddol.
I iaith leiafrifol, mae mor bwysig. Nid addurn yw’r gallu i greu mannau lle mae’r Gymraeg yn gyffredin; mae’n seilwaith. Goroesa ieithoedd drwy gael eu defnyddio. Drwy straeon newyddion lleol, ffraeo ar Facebook, galwadau byw ar y radio, dramâu teledu a phapurau cymunedol. Drwy’r miloedd o ryngweithiadau bob dydd sy’n galluogi iaith i weithredu nid fel symbol, ond fel realiti cymdeithasol byw.
Tra fod gofodau digidol yn hynod bwysig, ni allant gymryd lle cymunedau Cymraeg byw, wrth gwrs. Mae’r Fro Gymraeg – y mannau lle mae’r Gymraeg yn cael ei byw’n gyhoeddus ac o genhedlaeth i genhedlaeth – yn dal yn hanfodol i ddyfodol yr iaith.
Felly wrth gwrs, mae hiraeth yn rhan o’r erthygl hon. Ond nid y math o hiraeth roeddwn yn disgwyl ei ganfod ar ôl gadael cartref. Nid hiraeth am Gymru ei hun a ddarganfyddais, ond hiraeth am fersiwn o fywyd Cymraeg sy’n bodoli’n fwyaf cyflawn yn y gofodau rydym yn eu creu i’n gilydd.
Nid cysylltu’r diaspora â Chymru yn unig a wna’r cyfryngau Cymraeg. Cysylltant Gymru â hi ei hun. Adeiladant y bychanfyd Cymraeg hwnnw y mae cynifer ohonom yn treulio ein bywydau’n chwilio amdano. Yn dyheu amdano.
Ac efallai mai dyna pam, ar fore Sadwrn ym Manceinion gyda Radio Cymru’n chwarae’n dawel yn y cefndir, nad wyf yn teimlo cweit mor bell o’m cartref.
Mae Mirain yn fyfyrwraig y gyfraith, yn wreiddiol o Abertawe ac yn awr yn astudio ym Manceinion. Gallwch ddilyn hi ar Instagram.