Mae’n ffaith hysbys bod newid hinsawdd yn effeithio’n anghymesur ar bobl anabl. Rhwng meddyginiaethau sy’n effeithio ar allu’r corff i reoli ei dymheredd, tywydd eithafol sy’n rhoi rhagor o bwysau ar wasanaethau cyhoeddus a chymdeithasol sydd eisoes dan straen, a’r effaith y mae tonnau gwres yn ei chael ar y corff a chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes, gall pobl anabl deimlo’n fregus, wedi’u hanwybyddu ac yn ynysig.
Yn fy rôl yn arwain Prosiect Egin ar ran Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC), rwy’n canolbwyntio ar sut y gallwn gynnig gwell cefnogaeth i bobl anabl yn eu cymunedau. Mae elusennau gwych yng Nghymru (fel Anabledd Cymru) sy’n brwydro dros hawliau pobl anabl ym mholisïau’r llywodraeth, neu sy’n gweithio gyda grwpiau penodol, fel Our Visual World a Sight Life, sy’n cefnogi pobl F/fyddar a phobl ddall neu â nam ar eu golwg yng Nghymru, yn y drefn honno. Prif ffocws CAC yw meithrin talent greadigol pobl anabl a phobl F/fyddar, gan helpu ein cymuned o artistiaid anabl i greu a rhannu eu gwaith. Wrth wraidd popeth a wnawn mae’r gred y dylai celfyddydau anabledd gael cydnabyddiaeth gyfartal yn y diwydiant, ac y dylai artistiaid anabl allu manteisio ar gyfleoedd heb wynebu rhwystrau.
Yr hyn sy’n gyffredin i’r sefydliadau hyn i gyd yw eu bod yn hyrwyddo mabwysiadu a rhoi’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar waith. Roedd Celfyddydau Anabledd Cymru ymhlith y sefydliadau cyntaf i’w fabwysiadu a’i weithredu. Pobl anabl a ddatblygodd y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’n cydnabod mai rhwystrau yn yr amgylchedd, mewn sefydliadau ac yn agweddau pobl sy’n atal pobl anabl rhag cymryd rhan lawn mewn cymdeithas, nid eu cyflyrau meddygol, eu namau na’r hyn sy’n eu gwneud yn wahanol. Mae’r rhwystrau hyn yn cynnwys seilwaith cyhoeddus a chymdeithasol nad yw’n ystyried anghenion pobl anabl, yn ogystal ag agweddau gwahaniaethol tuag at anabledd sydd wedi gwreiddio yn ein cymdeithas. Yn ogystal, mae’r sefydliadau hyn yn poeni fwyfwy am yr argyfwng hinsawdd ac yn rhoi mwy o sylw iddo.
Fel artist anabl yng Nghymru fy hun, mae sicrhau dyfodol teg a gofalgar i gymunedau sydd ar y cyrion yng Nghymru yn bwysig iawn i mi. Rwyf hefyd yn deall sut y gall gwahanol agweddau ar hunaniaeth rhywun, sy’n golygu eu bod yn wynebu ymyleiddio, orgyffwrdd a chreu pwysau ychwanegol. Gyda hynny mewn golwg, rwy’n datblygu pecyn cymorth i helpu artistiaid anabl yng Nghymru i gymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Un o’r cwestiynau sydd wedi fy arwain yw: sut olwg sydd ar hynny mewn gwirionedd?
"Fel artist anabl yng Nghymru fy hun, mae sicrhau dyfodol teg a gofalgar i gymunedau sydd ar y cyrion yng Nghymru yn bwysig iawn i mi... Gyda hynny mewn golwg, rwy’n datblygu pecyn cymorth i helpu artistiaid anabl yng Nghymru i gymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Un o’r cwestiynau sydd wedi fy arwain yw: sut olwg sydd ar hynny mewn gwirionedd?"
Ysgrifennwr
Rwyf wedi bod yn trefnu sesiynau gwybodaeth wyneb yn wyneb gydag artistiaid a phobl greadigol anabl i drafod y rhwystrau sy’n ein hwynebu wrth geisio cymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Mae’n ddyddiau cynnar o hyd, ond y consensws cyffredinol yw bod y rhan fwyaf o bobl anabl yn ymwybodol o’r argyfwng hinsawdd parhaus ac yn poeni amdano a’i effaith arnyn nhw. Rydym wedi trafod rhannu adnoddau ac asedau cymunedol: caffis trwsio, ‘llyfrgelloedd pethau’ a llyfrgelloedd yn gyffredinol. Buom yn trafod yn helaeth pa mor flaengar oedd sefydliadau’r glowyr a’r gweithwyr ar lefel gymdeithasol: roedden nhw’n ganolfannau addysgol a chymunedol, gyda llyfrgelloedd ac ystafelloedd darllen, dosbarthiadau nos, neuaddau adloniant a byrddau gemau. Rydym hefyd wedi trafod ‘mannau i alaru’: mannau ffisegol hygyrch a diogel lle gall pobl anabl fynegi eu galar a’u pryder am yr argyfwng hinsawdd parhaus, a chefnogi ei gilydd.
Yn ogystal â’r sesiynau wyneb yn wyneb, rwy’n cynnal arolwg (mae dolen iddo yma ac ar waelod y dudalen) er mwyn casglu barn cymaint â phosibl o artistiaid a phobl greadigol anabl yng Nghymru am eu profiadau o geisio cymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd, a’r hyn y gall sefydliadau celfyddydol yng Nghymru ei wneud i’w cefnogi. Rwy’n credu bod hwn yn faes ymchwil hollbwysig. Wrth i fannau cymdeithasol a mannau ymgynnull y tu allan i’r cartref a’r gweithle fynd yn fwyfwy anhygyrch oherwydd diffyg cyllid neu gau, efallai fod angen i ni edrych ar fannau celfyddydol fel canolfannau cymunedol a neuaddau lles newydd. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn gwneud gwaith anhygoel, a’r gobaith yw y bydd yr ymchwil hwn o fudd i gynifer o bobl â phosibl yn y pen draw.
Mae fy nghydweithwyr yng Nghelfyddydau Anabledd Cymru hefyd wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar gyfiawnder hinsawdd yn ystod misoedd Tachwedd a Rhagfyr. Y cyntaf yw ‘Celf fel Gwrthsafiad: Menywod, Creadigrwydd a Herio Anghydraddoldebau Rhywedd mewn Gofal Iechyd’, gyda phobl greadigol anabl amlwg, gan gynnwys yr awdur a’r ymgyrchydd dros hawliau pobl anabl Bethany Handley, a Delyth Jewell AS (y Dirprwy Weinidog Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl ac Iechyd Menywod). Bydd digwyddiadau wedyn yn trafod mynediad at drafnidiaeth, teithio a natur, a sut rydym yn ymateb yn greadigol i newid hinsawdd. Bydd y gyfres yn dod i ben gyda sgwrs gan yr Athro David Turner, awdur Disability: A History of Resistance, yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl, 3 Rhagfyr. Mae pob digwyddiad am ddim, yn agored i bawb ac ar Zoom, heblaw’r digwyddiad olaf yn Chapter — cliciwch yma i weld yr holl ddigwyddiadau yn adran ‘Hwb’ gwefan CAC.
Mae’r sgyrsiau hyn am hygyrchedd i bobl anabl a chyfiawnder hinsawdd yn parhau. Ond rydym i gyd yn cydweithio i sicrhau bod pobl anabl yng Nghymru yn teimlo’n llai bregus, yn llai tebygol o gael eu hanwybyddu ac yn llai ynysig, ac yn cael eu grymuso i deimlo gobaith ac i wybod bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
Cymerwch bum munud i lenwi’r harolwg am gymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd. Gallwch ei lenwi yn Gymraeg neu yn Saesneg, drwy destun, sain neu fideo.
Mae Joshua Jones (ef/ei) yn awdur ac yn artist anabl, niwro-wahanol o Lanelli, De Cymru. Gallwch ei dilyn ar Substack.