Roedd erthygl yn y Boston Globe a aeth yn firaol, am far lesbiaidd lleol o’r enw Last Ditch ym Massachusetts, yn manteisio ar stereoteipiau am y gymuned gwiar heb gynnig y naws na’r ddealltwriaeth fanwl yr oedd eu hangen i wneud cyfiawnder â’r stori. Ar 22 Medi, cyhoeddodd y Boston Globe erthygl o’r enw “A Western Mass. lesbian bar required KN-95 masks. When it changed the rules, all hell broke loose.” Pan newidiodd y rheolau, aeth pethau ar chwâl.’ Rhoddodd yr erthygl sylw byd-eang i rwyg mewn cymuned o amgylch bar lesbiaidd mewn tref fach. Dechreuodd y cyfan pan benderfynodd y bar, y mae ei berchennog yn gwneud pedair swydd ac yn ei chael hi’n anodd ad-dalu benthyciad wedi i’r cydberchnogion eraill adael y fenter, wneud gwisgo masgiau yn ddewisol ar ddydd Sadwrn. Fel arfer, roedd gwisgo masg yn amod mynediad. Ymatebodd llawer o bobol y gymuned leol yn ddig, gan deimlo eu bod wedi cael eu bradychu.
Mae erthygl y Globe yn agor gyda chasgliad o sylwadau ar gyhoeddiad Last Ditch ar Instagram, gan ddangos sut y tyfodd yr ymosodiad torfol ar-lein, a’r newyddiadurwr yn rhoi disgrifiad helaeth o’r dicter cynyddol.
Yr effaith ar y darllenydd yw ei lethu â gormodedd o fanylion, heb wneud fawr o gyfiawnder â chymhlethdodau gwirioneddol y gymuned leol hon. Yn sgil yr erthygl, disgynnodd ton o adlach gan y brif ffrwd ar Last Ditch ac ar bob unigolyn cwiar oedd yn gysylltiedig â’r lle.
Gwnaeth y Boston Globe elw sylweddol o’r erthygl wrth i nifer y tanysgrifiadau gynyddu’n sydyn. Gwnaeth hynny drwy werthu stereoteip diog a rhagfarnllyd am bobol gwiar: cymuned ansefydlog a gelyniaethus. Ni chafwyd atebion i’r cwestiynau dyfnach am yr hyn a ddigwyddodd ym Massachusetts: Pam y digwyddodd hyn? A phwy yw’r bobol hyn mewn gwirionedd, y tu hwnt i’r cymeriadau y maen nhw’n eu chwarae yn y stori?
Pe bai’r Globe wedi treulio amser yn ateb y cwestiynau hyn, efallai y byddai rhywbeth pwysicach am gymunedau cwiar wedi dod i’r amlwg. Rhywbeth am y ffyrdd rydyn ni’n brwydro a’r gwrthdaro sy’n werth brwydro drosto.
Mae’r erthygl yn dwyn i’r amlwg yr holl broblemau a waethygodd pandemig Covid-19: caledi economaidd, anabledd, a’r ffyrdd y mae’r heriau hyn yn dwysáu ymhlith pobol LHDTCIA+. Yn arbennig, mae’r ffordd yr ymdriniwyd â’r stori yn enghraifft glasurol o amharodrwydd y cyfryngau prif ffrwd i drafod ein cymuned.
"Dros amser, dw i wedi gweld y pwysau ariannol sy'n tagu mentrau cydweithredol nes eu gwthio tuag at ffordd fwy cyfalafol o feddwl. Ac, wrth i mi warchod fy hun rhag y feirws gyda rhywun â system imiwnedd wan, heb weld neb am ddwy flynedd heblaw o dan ragofalon eithriadol yn ystod y pandemig, dw i wedi teimlo'r unigrwydd a'r chwerwder sy'n cronni pan fydd rhywun wedi'i ynysu oddi wrth yr union bobol y mae eu hangen fwyaf."
Ysgrifennwr
Pan oeddwn i’n byw mewn dinas â chymuned gwiar fawr, yn ôl yn 2018, roeddwn i’n gweithio mewn caffi cydweithredol. Pobol gwiar, adain chwith a chydweithwyr anabl oedd y rhan fwyaf ohonon ni, yn ceisio adeiladu rhywbeth mwy na menter fusnes. Beth bynnag a lwyddon ni i’w gyflawni dros y gymuned, fe lwyddon ni i fwydo a thalu ein hunain am dros ddegawd. Mae hynny, ynddo’i hun, yn gamp aruthrol. Mae cynnal lleoliad cwiar dros gyfnod hir, cadw at werthoedd economaidd menter gydweithredol a chynnig cymorth ymarferol, diriaethol i bobol yn beth anghyffredin mewn dinasoedd fel fy un i. Roeddwn i’n falch o weithio yno.
Dros amser, dw i wedi gweld y pwysau ariannol sy’n tagu mentrau cydweithredol nes eu gwthio tuag at ffordd fwy cyfalafol o feddwl. Ac, wrth i mi warchod fy hun rhag y feirws gyda rhywun â system imiwnedd wan, heb weld neb am ddwy flynedd heblaw o dan ragofalon eithriadol yn ystod y pandemig, dw i wedi teimlo’r unigrwydd a’r chwerwder sy’n cronni pan fydd rhywun wedi’i ynysu oddi wrth yr union bobol y mae eu hangen fwyaf.
Nid problemau sy’n perthyn i bobol gwiar yn unig mo’r rhain. Gwnaeth y pandemig ddifrod aruthrol i leoliadau a busnesau lleol ledled y DU. Mae nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â Covid-19 yn y DU yn drasig o uchel, ac mae’n debygol nad yw’r ffigurau’n adlewyrchu’r gwir nifer oherwydd diffyg cysondeb yn y ffordd y cofnodwyd marwolaethau COVID. Roedd ceisio penderfynu beth oedd y peth iawn i’w wneud, llywio’r cyfyngiadau symud a’r angen i ddychwelyd i fannau cyhoeddus, a’r gwrthdaro a oedd mewn perygl o gael ei dawelu yn hytrach na’i ddatrys, yn nodweddu’r blynyddoedd rhwng 2021 a 2023.
Ac wrth gwrs, ar ôl i’r cyfyngiadau symud ddod i ben ac i gymdeithas ddychwelyd i’r ‘normal’, ni chafwyd trafodaeth agored wedyn am beth oedd y dewis cywir bryd hynny, pwy a’i gwnaeth, na beth oedd ei gost. Prin fu diddordeb y cyhoedd yn ymchwiliadau COVID y DU chwaith.
Pan fydd pobol gwiar yn ymrwymo i’w gilydd, maen nhw’n gwneud hynny am fod rhaid. Mae arnon ni angen ein gilydd er mwyn goroesi. Yn aml, ni ein hunain yw ein hunig deulu a’n hunig rwyd ddiogelwch. Mae’r pwysau economaidd y mae hyn yn ei roi ar berthnasoedd cymdeithasol yn aruthrol. Efallai mai dim ond drwy lens argyfwng y mae’r gymdeithas brif ffrwd ei hun wedi’i brofi, fel Covid-19, y gall ddeall hynny. Ond mae ei hanallu ei hun i ddatrys gwrthdaro — cyfrifoldeb sy’n cael ei drosglwyddo i’r heddlu a chyrff llywodraethol i raddau helaeth, fel y gwyddon ni — yn gwbl amlwg i mi yn y ffordd y mae’n ymateb i’n gwrthdaro ni.
Drwy geisio mynd i’r afael â materion fel anabledd a mannau cyhoeddus, diddymu carchardai a chyfiawnder, rydyn ni’n torri tir newydd lle nad yw’r gymdeithas ehangach yn fodlon mentro. Mae’n debyg ei bod hi’n haws chwerthin am ein pennau, ein bychanu a’n haflonyddu am geisio gwneud pethau nad yw eraill hyd yn oed yn barod i roi cynnig arnyn nhw. Ac mae ein hamlygu ar lwyfannau cyfryngau’r dde a’r canol yn sicr yn gwneud arian iddyn nhw.
Yn ôl astudiaeth y llynedd, mae newyddion LHDRCIA+ yn yr Unol Daleithiau mewn argyfwng. Mae’n anodd herio neu gywiro’r erthyglau sy’n cael eu hysgrifennu amdanon ni. Rydyn ni’n dibynnu ar newyddiadurwyr egwyddorol i adrodd straeon yn gywir.
Yn fuan ar ôl i erthygl y Globe ymddangos, disgrifiodd trefnydd gwreiddiol Last Ditch hi fel ‘newyddiaduraeth warthus ac erthygl ddi-drefn’. Yn y pen draw, doedd hi ddim wedi helpu neb oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad. Doedd hi chwaith ddim wedi hybu unrhyw drafodaeth ddefnyddiol am anabledd, COVID na’r anawsterau sy’n wynebu busnesau lleol.‘
Yn hytrach, mae’n enghraifft arall o’r esgidiau sydd ar ein gyddfau yn pwyso’n drymach fyth, tra byddwn ni’n brwydro, weithiau’n ffyrnig, dros yr ychydig ddewisiadau sydd ar ôl gennyn ni: y lleoliadau olaf sy’n dal ar agor mewn dinas, a’r ychydig arian sydd ar gael. Yn y cyfamser, mae gan y cyfryngau prif ffrwd fwy o ddiddordeb mewn pa mor ddoniol ydyn ni nag yn ein brwydrau i ddod o hyd i ffordd drwy’r cyfan gyda’n gilydd.
Mae’r erthygl hon yn rhan o bartneriaeth QueerAF a Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru sy’n ymroddedig i ddyrchafu newyddiadurwyr LGBTQIA+ Cymreig sy’n dod i’r amlwg ac sydd ar y cyrion.
Gallwch ddilyn Aliyy ar Instagram.
Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr wythnosol QueerAF neu dewch yn aelod.