Pam y treulion ni flwyddyn yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog

22/10/2026 | Inclusive Journalism Cymru

Pwrpas Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yw amddiffyn, cefnogi a chynrychioli pobol sydd wedi cael eu gwthio i’r cyrion neu eu heithrio gan y diwydiant newyddiaduraeth. Yn aml, newyddiadurwyr yw’r rheini – pobol fel ni sydd wedi cael ein cadw allan o ystafelloedd newyddion, neu sydd wedi cael ein gwneud i deimlo nad oes lle i ni yno ar ôl llwyddo i gael troed dros y trothwy. Felly, byddai’n gwbl deg gofyn pam ein bod wedi treulio’r flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda chymuned ym Mlaenau Ffestiniog, cyn-dref chwarelyddol yn Eryri.

Yr ateb, wrth gwrs, yw bod eithrio’n gweithio’r ddwy ffordd. Mae newyddiaduraeth yn penderfynu pwy sy’n cael adrodd straeon, ond hefyd straeon pwy sy’n cael eu hadrodd, a sut. Pan ddechreuon ni ar y gwaith, dywedodd ein partneriaid yn y Blaenau fod y dref yn teimlo ei bod wedi’i gadael ar ôl, ymhell o ganolfannau grym. Byddai llawer o’n haelodau’n gyfarwydd iawn â’r teimlad hwnnw.

Yr wythnos hon, cyhoeddon ni ganfyddiadau ein gwaith yn Newyddion i Bawb, ar ffurf astudiaeth achos, papur polisi a phodlediad. Er nad yw hynny’n amlwg ar yr olwg gyntaf, mae’r prosiect hwn yn cyffwrdd â chalon pwrpas Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru.

"Sefydlais Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru ar ôl mwy na 25 mlynedd yn y diwydiant, a threulio llawer o’r cyfnod hwnnw’n brwydro yn erbyn gwahaniaethu systemig, er mwyn sicrhau na fyddai’n rhaid i’r newyddiadurwyr fyddai’n dod ar fy ôl i wynebu’r un brwydrau. Gwnaeth gweithio yn y Blaenau fy atgoffa pa mor debyg yw’r brwydrau hynny, p’un a ydych chi y tu allan i ystafell newyddion neu y tu allan i’r stori."

Shirish Kulkarni

Ysgrifennwr

Ailadeiladu ymddiriedaeth

Newid y naratif ac ailadeiladu ymddiriedaeth yw un o’n tri phrif nod, a dyna lle canolbwyntion ni lawer o’n gwaith. Prin oedd yr ymddiriedaeth yn y cyfryngau newyddion prif ffrwd ymhlith y pobol y buon ni’n gweithio gyda nhw, fel sy’n wir am lawer o gymunedau ledled Cymru a thu hwnt. Fel y dywedodd un cyfranogwr, “mae’r cyfan yn ymwneud â thuedd, a phwy i’w gredu.”

Rydyn ni’n hollol glir ynglŷn â hyn: mae’r diffyg ymddiriedaeth hwnnw’n rhesymol ac yn gyfiawn. Rhan o’r broblem yw’r ffordd mae llefydd fel y Blaenau’n cael sylw. Fel y dywedodd cyfranogwr arall, “Mae llawer o brosiectau da yn y Blaenau, ond anaml iawn mae’r dref yn cael y clod amdanyn nhw.” Pan fydd tref ond yn ymddangos yn y newyddion fel stori am ddirywiad, mae’r trigolion yn peidio ag adnabod eu hunain yn y darlun hwnnw, ac yn colli ffydd yn y sawl sy’n ei gyflwyno.

Felly, yn y Blaenau, fel gyda Newyddion i Bawb yn Grangetown, dechreuon ni drwy ganolbwyntio ar gryfderau’r lle, yn hytrach na’i broblemau.

Yn yr achos hwn, roedd hynny’n golygu adeiladu ar hanes arloesi a rhannu gwybodaeth y dref, a gaiff ei symboleiddio gan sesiynau caban y chwareli llechi, yn ogystal â’r llu o fentrau cymdeithasol sydd eisoes yn rhan annatod o fywyd y dref.

Newid y ffordd mae’r diwydiant yn gwrando

Rydyn ni wedi dadlau erioed nad yw cynhwysiant yn gorffen gyda phwy sy’n cael swydd. Rhaid i sefydliadau newid y ffordd maen nhw’n gwrando hefyd. Drwy gydol Newyddion i Bawb, bu S4C yn cydweithio fel cyd-ymchwilwyr ar sail gwbl gyfartal â phawb arall yn yr ystafell, gan ddysgu ochr yn ochr â’r gymuned yn hytrach na’i hastudio. Mae ein papur polisi’n mynd gam ymhellach, gan alw ar Lywodraeth Cymru i ariannu gwaith sy’n cael ei arwain gan gymunedau, ac i fesur ei lwyddiant yn ôl ei allu i ddod â phobol at ei gilydd, yn hytrach na faint o gynnwys sy’n cael ei gynhyrchu.

Cefnogi newyddiadurwyr ac ehangu’r cylch

Mae cefnogi newyddiadurwyr sydd wedi’u gwthio i’r cyrion yn parhau’n ganolog i’n gwaith, a defnyddion ni’r prosiect i gysylltu gwahanol agweddau ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud. Ymunodd Sofia Lewis, Cymrawd Cynefin Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yn Sefydliad Reuters ar gyfer Astudio Newyddiaduraeth, ag un o benwythnosau’r ymchwil, gan gysylltu’r hyn a ddysgodd yn y Blaenau â’i hymchwil i ddosbarth cymdeithasol ym maes newyddiaduraeth.

Roedd y prosiect hefyd yn ehangu ein dealltwriaeth o bwy sy’n cyfrif fel newyddiadurwr. Cynlluniodd a chynhaliodd y grŵp ei ddigwyddiadau cymunedol ei hun. Er bod rhai o’r cyfranogwyr eisoes yn drefnwyr, yn storïwyr ac yn bobol oedd yn helpu eu cymuned i wneud synnwyr o’r byd pan gyrhaeddon nhw, roedd llawer mwy yn gwneud hynny erbyn iddyn nhw adael. Os mai diben newyddiaduraeth yw helpu pobol i ddeall eu byd fel y gallan nhw weithredu dros eu cymunedau (fel rydyn ni’n credu), yna newyddiaduraeth oedd hyn.

Sut y gwnaeth pwy ydyn ni lywio ein gwaith

Ni fyddai dim o hyn wedi gweithio heb gael y bobol iawn yn yr ystafell. Arweiniodd cyfarwyddwr Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, Silvia Rose, y prosiect yn lleol, gan gyd-hwyluso rhai o’r sesiynau gyda Rhiannon White o Common/Wealth. Mae Silvia ei hun yn dod o Eryri ac yn siarad Cymraeg, ac mae’n deall o’i phrofiad ei hun yr heriau sy’n wynebu cymunedau fel y Blaenau.

“Des i at y prosiect hwn gyda’m gwybodaeth am y diwydiant newyddiaduraeth yng Nghymru a’m hymrwymiad i gynhwysiant. Des i fel rhywun lleol – rhywun sy’n byw yr ochr arall i’r mynydd o Flaenau, sydd wedi treulio blynyddoedd yn gweithio yn Cellb, y ganolfan gelfyddydol lle cynhaliwyd yr ymchwil, ac sydd â dealltwriaeth ddofn o’r lle a’i bobol. Des i hefyd fel awdur, gan arwain gweithgareddau creadigol ac annog y cyfranogwyr i archwilio’r credoau sydd wrth wraidd eu safbwyntiau.

Roedd y gwahanol safbwyntiau hyn yn fy ngalluogi i gysylltu â’r materion a gododd ar lefel leol ac ar lefel ehangach. Roeddwn i’n deall ac yn rhannu’r rhwystredigaeth o deimlo ein bod wedi’n gadael allan o sgyrsiau cenedlaethol; naws ac emosiwn yr iaith Gymraeg; a chymeriad a bywiogrwydd unigryw ein trefi a’n cymoedd – llefydd y gallai eu straeon ysbrydoli pobol eraill, petai’r straeon hynny’n cael eu hadrodd. Ac roeddwn i’n gallu gweld sut mae’r materion hyn yn gysylltiedig â phatrwm ehangach o esgeulustod yn y cyfryngau – lle mae cymaint o’n cymunedau naill ai’n cael eu portreadu’n negyddol neu ddim yn cael eu cynrychioli o gwbl.”

Sefydlais Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru ar ôl mwy na 25 mlynedd yn y diwydiant, a threulio llawer o’r cyfnod hwnnw’n brwydro yn erbyn gwahaniaethu systemig, er mwyn sicrhau na fyddai’n rhaid i’r newyddiadurwyr fyddai’n dod ar fy ôl i wynebu’r un brwydrau. Gwnaeth gweithio yn y Blaenau fy atgoffa pa mor debyg yw’r brwydrau hynny, p’un a ydych chi y tu allan i ystafell newyddion neu y tu allan i’r stori.

Dal i wrando

Pan sefydlon ni Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, dywedon ni nad oedd yr holl atebion gyda ni, ac y bydden ni’n parhau i wrando, dysgu a datblygu. Dyna oedd hanfod y prosiect hwn. Roedd yn ein hatgoffa bod angen i’n gwaith ymestyn y tu hwnt i ystafelloedd newyddion, i’r llefydd a’r cymunedau mae newyddiaduraeth yn rhy aml yn eu hanwybyddu. Dangosodd hefyd faint yn fwy y gallwn ei gyflawni drwy gydweithio ag eraill.

Rydyn ni wedi meithrin partneriaethau parhaol ar hyd y ffordd, gyda sefydliadau gan gynnwys Cymru Greadigol, S4C, Common/Wealth a PDR, ac wedi ffurfio (ac adnewyddu) nifer o gyfeillgarwch yn y Blaenau.

Mae’r gwaith hefyd yn dylanwadu ar bolisi, drwy ein tystiolaeth i Bwyllgor Diwylliant y Senedd a’r ddadl am Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol newydd Cymru. Mae’r prosiect eisoes wedi cyrraedd ymhell y tu hwnt i Gymru, gyda sylw iddo ledled y DU, yr Unol Daleithiau ac Ewrop, gan ddangos y dylanwad y gallwn ei gael drwy weithio’n fanwl ac ar y cyd.

Os hoffech wybod mwy, mae’r astudiaeth achos, y papur polisi a’r podlediad oll ar gael nawr. Os yw’r gwaith hwn yn taro tant gyda chi, boed yn newyddiadurwr, yn grŵp cymunedol neu’n sefydliad sydd hefyd yn gwrando, cysylltwch â ni. Bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych.

Dilynwch Shirish ar Instagram neu LinkedIn, neu ymweld â’i wefan.