Diddordeb mewn podledu? Dyma'ch cyfle i ddysgu mwy
Ymunwch â Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru ar gyfer y Dosbarth Meistr hwn ar bodledu, gyda gwesteion arbennig anhygoel, Hannah Ajala (Love, Janessa) a’n Damian Kerlin (Memories from the Dancefloor).
Yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, byddwch yn dysgu am ddatblygu eich syniadau, cynhyrchu podlediad a gwneud cysylltiadau defnyddiol o fewn y diwydiant.
Am ein gwesteion arbennig
Mae Hannah Ajala yn newyddiadurwr a chyflwynydd rhyngwladol sydd ar hyn o bryd yn arbenigo mewn adrodd straeon a phodlediadau ar gyfer sefydliadau fel y BBC a CBC, ac yn ddiweddar treuliodd dros dair blynedd yn teithio ar draws Affrica yn gweithio ar amrywiaeth o straeon a darlledu ar gyfer sefydliadau rhyngwladol. Yn 2018 sefydlodd We Are Black Journos rhwydwaith sy’n canolbwyntio ar gynrychiolaeth gymdeithasol.
Mae Damian Kerlin yn awdur, darlledwr a chrëwr cynnwys o Gaerdydd, ac yn Gyfarwyddwr Newyddiaduraeth Cynhwysol Cymru. Yn ogystal ag ysgrifennu a rheoli ei flog ei hun, mae Damian wedi ysgrifennu ar gyfer Attitude, The Telegraph a The Independent. Mae’n golofnydd rheolaidd i Out News Global ac yn awdur nodwedd i The Belfast Telegraph lle mae’n ysgrifennu ar ddiwylliant a materion cyfoes LHDTQ+. Mae Damian wedi’i restru fel un o 30 o sêr mwyaf arloesol a chyffrous PodPod o bob rhan o’r diwydiant podlediadau.
Yn ymuno â ni hefyd bydd Alun Llwyd, Prif Weithredwr o AM, gwefan ac ap sy’n ymroddedig i rannu’r celfyddydau yng Nghymru – gan gynnwys podlediadau – a fydd yn cyfeirio at ffyrdd o gymryd rhan a’r cyfleoedd sydd ar gael.
Cofrestrwch am ddim
Ymunwch â ni ar-lein am 7.00pm nos Fercher 28ain Mehefin. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom a gallwch gofrestru yma. Mae croeso i bawb fynychu, ac mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim ac yn agored i’r rhai nad ydynt yn aelodau, hyd yn oed os nad ydych chi yng Nghymru neu o Gymru.
Bydd capsiynau byw amser real ar gael . Bydd capsiynau byw amser real ar gael. Bydd yna hefyd gyfieithiad Saesneg > Cymraeg a Chymraeg > Saesneg i’ch galluogi i ryngweithio â’r digwyddiad yn eich dewis iaith.
Anfonwch e-bost atom ar silvia@inclusivejournalism.cymru os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd y gallwn helpu gyda nhw.
Cyflwynir y dosbarth meistr hwn gan Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, rhwydwaith sy’n cefnogi newyddiadurwyr yng Nghymru. Cofrestrwch yma am fwy o gyfleoedd.