Cofrestrwch ar gyfer ein dosbarth meistr am ddim ar greu cylchlythyrau

25/01/2024 | Inclusive Journalism Cymru

Diddordeb mewn archwilio byd cylchlythyrau? Dyma'ch cyfle i dreiddio'n ddyfnach

Fel un o’r sectorau sy’n ehangu gyflymaf yn y diwydiant cyfryngau, mae cylchlythyrau’n cynnig llwyfan i newyddiadurwyr feithrin cymuned a gwneud arian i’w gwaith. Maent hefyd yn cynorthwyo cyhoeddwyr i feithrin cysylltiadau mwy clos ac ystyrlon â’u cynulleidfa.

Dewch i ddosbarth meistr Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, sy’n cynnwys tri gwestai nodedig sydd ar flaen y gad o ran creu cylchlythyrau deniadol sy’n atseinio gyda’u cynulleidfaoedd a meithrin dilynwyr ymroddedig: Joshi Herrmann (Mill Media), Isabelle Roughoul (The Lede) a Jamie Wareham (QueerAF).

Bydd y dosbarth meistr am ddim hwn yn rhoi cipolwg ar adnabod eich cynulleidfa darged, lansio cylchlythyr, cynhyrchu cynnwys cymhellol, a meithrin cymuned.

Ynghylch ein gwesteion arbennig

Newyddiadurwr wedi’i leoli yng Ngogledd Lloegr yw Joshi Herrmann. Sefydlodd y Manchester Mill, Birmingham Dispatch, Sheffield Tribune a Liverpool Post.

Newyddiadurwr ac ymgynghorydd cyfryngau annibynnol yw Isabelle Roughol, sy’n canolbwyntio ar adeiladu sefydliadau newyddion cynaliadwy lle mae pobl wrth eu bodd yn gweithio. Mae hi’n ysgrifennu The Lede, cylchlythyr am wella rheolaeth a diwylliant y gweithle yn y diwydiant newyddion, a sefydlodd Borderline, podlediad annibynnol am fywydau sy’n cael eu byw ar draws ffiniau.

Jamie Wareham yw sylfaenydd QueerAF, cyhoeddwr LHDTQIA+ annibynnol sy’n cefnogi creadigwyr cwiar i adeiladu gyrfa yn y cyfryngau. Mae’n newyddiadurwr, yn gynhyrchydd cyfryngau digidol arobryn ac yn dderbynnydd Forbes Under 30.

Cofrestrwch am ddim

Ymunwch â ni ar-lein am 7.00yp ddydd Iau 25 Ionawr 2024. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar Zoom a gallwch gofrestru yma. Mae croeso i bawb fynychu, ac mae’r digwyddiad yn am ddim ac yn agored i’r rhai nad ydynt yn aelodau, hyd yn oed os nad ydych chi yng Nghymru neu o Gymru.

Bydd capsiynau byw amser real ar gael.

Anfonwch e-bost atom ar silvia@inclusivejournalism.cymru os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd.

Cyflwynir y dosbarth meistr hwn gan Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, rhwydwaith sy’n cefnogi newyddiadurwyr yng Nghymru. Cofrestrwch yma am fwy o gyfleoedd.

29/04/2026

Cofrestrwch ar gyfer ein trafodaeth panel am ddim i’ch helpu gweithio ym maes newyddiaduraeth

Eisiau gweithio ym maes newyddiaduraeth? Ymunwch â'n trafodaeth panel am ddim gyda'r siaradwyr gwadd Donna Ali, Robert Oros a Sofia Lewis

Archebwch eich tocyn