Ymunwch â’n sesiwn holi ac ateb ar-lein am Gymrodoriaeth Cynefin

10/09/2025 | Inclusive Journalism Cymru

Rydym yn cynnal sesiwn Holi ac Ateb ar-lein am ein Cymrodoriaeth Cynefin newydd mewn partneriaeth â Sefydliad Reuters ar gyfer Astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Rhydychen. Darllenwch ein blog gwybodaeth yma am fwy o fanylion.

Mae’r sesiwn hon yn gyfle i:

  • Ddysgu mwy am yr hyn y mae’r Gymrodoriaeth yn ei olygu
  • Gofyn cwestiynau am gymhwysedd, ceisiadau, y mathau o gynigion prosiect rydyn ni’n chwilio amdan – neu unrhyw beth arall
  • Clywed yn uniongyrchol gan dimau Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru a Sefydliad Reuters

Ynghylch y Gymrodoriaeth

Mae Cymrodoriaeth gyntaf Cynefin yn cynnig cyfle unigryw i newyddiadurwr, ymchwilydd, neu newidiwr yng Nghymru neu o Gymru, gyda o leiaf tair blynedd o brofiad, dreulio tymor wedi’i ariannu’n llawn (Ionawr – Ebrill 2026) yn Sefydliad Reuters yn Rhydychen. Bydd y Cymrawd yn archwilio prosiect hunangynlluniedig ar gynhwysiant a/neu arloesedd mewn newyddiaduraeth, gan weithio ochr yn ochr ag ymchwilwyr ac ymarferwyr byd-eang blaenllaw.

Ar ôl Rhydychen, bydd y Cymrawd yn gweithio ochr yn ochr â Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru fel Gwehydd Rhwydwaith, gan arwain rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd i rannu mewnwelediadau â chymunedau a rhanddeiliaid y diwydiant.

Mae ceisiadau bellach ar agor trwy wefan Sefydliad Reuters. Dyddiad cau 11:59pm, dydd Llun 29 Medi.

Cofrestru am ddim

Ymunwch â ni ar-lein drwy zoom am 7 – 8pm ddydd Mercher 10fed Medi

Cofrestrwch nawr i ddarganfod sut y gallai’r Gymrodoriaeth gefnogi eich gyrfa a newid newyddiaduraeth er gwell.