Gwyl-ddydd Newyddiaduraeth

26/04/2025 | Inclusive Journalism Cymru

Noder y Dyddiad: Prynhawn o Newyddiaduraeth Gynhwysol yng Nghaernarfon!

Ymunwch â ni i ddathlu cyhoeddiad traethawd creadigol Kayley Roberts a gomisiynwyd fel rhan o’n prosiect ‘Deall Ein Gorffennol i Adnabod Ein Presennol’, mewn partneriaeth ac Archif Ddarlledu Cymru. Yn ei darn, ‘Adroddiad o Chwarel Ithfaen ym Mhenmaenmawr a Phroblemau Llwch i Dai Cyfagos’ Mae Kayley yn defnyddio realaeth ffuglennol i ymchwilio i themâu a ysbrydolwyd gan ffilm hanesyddol o gymunedau chwarelyddol o’r archif.

Pryd?

12:00pm – 5:00pm, dydd Sadwrn 26ed o Ebrill.

Ble?

Galeri,
Doc Victoria,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 1SQ

Beth allaf ei ddisgwyl?

  • Darlleniad byw o waith Kayley Roberts yn ystyried dosbarth cymdeithasol, iechyd a hanes – sydd wedi ei hysbrydoli gan clipiau hanesyddol o chwareli o Archif Darlledu Cymru
  • Trafodaeth banel am dirwedd y cyfryngau a chyhoeddi yng Nghymru – gyda’r newyddadurwr Shirish Kulkarni, Mirain Owen (Cymdeithas yr Iaith), Wil Gritten (Dref Werdd), yr awdur Iola Ynyr ac Heledd Williams yn hwyluso’r drafodaeth
  • Gweithdy collage dan ddefnyddio ffotocopïau o bapurau newydd o’r archif gyda Llinos Annwyl
  • Cyflwyniad byr gan Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru a chyfle i gyfrannu at ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol
  • Cinio a lluniaeth am ddim


Sylwch, cynhelir y digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r rhai sydd ei angen. 

Mae’r digwyddiad yma am ddim ac yn agored i bawb.

Cofrestrwch nawr

Llenwch y ffurflen hon cyn 5:00pm dydd Mawrth 22 Ebrill – diolch!