Ymunwch â ni yng Nghaerdydd a lleisiwch eich barn
Mae newyddiaduraeth yn newid. Mae technolegau newydd, cynulleidfaoedd sy’n newid, llwyfannau sy’n esblygu a ffyrdd newydd o weithio yn ail-lunio’r hyn y mae’n ei olygu i adeiladu gyrfa yn y diwydiant.
Ymunwch â ni am brynhawn rhyngweithiol a fydd yn dod â newyddiadurwyr profiadol, gweithwyr proffesiynol y cyfryngau a thalent newydd at ei gilydd i ystyried i ble mae newyddiaduraeth yn mynd, a sut gallwn ni ganfod ein lle ynddi.
Dan arweiniad y newyddiadurwr diwylliannol a Gwehydd Rhwydwaith Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, Sheryl Njini, bydd y digwyddiad yn symud oddi wrth y fformat panel traddodiadol er mwyn creu lle ar gyfer sgwrs fwy gonest, rhannu gwybodaeth a meithrin cysylltiadau.
Byddwn yn trafod popeth o ddeallusrwydd artiffisial a thechnoleg newydd i lwybrau gyrfa, cynaliadwyedd, cynulleidfaoedd a’r sgiliau y bydd eu hangen ar newyddiadurwyr wrth i’r diwydiant barhau i esblygu.
Bydd cyfle i glywed yn uniongyrchol gan ein siaradwyr gwadd arbennig sy’n gweithio ym maes newyddiaduraeth ac arloesi yn y cyfryngau, cyfrannu eich safbwyntiau eich hun a meithrin cysylltiadau â phobl ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd.
P’un a ydych yn ceisio cael eich troed yn y drws ym myd newyddiaduraeth, yn canfod eich ffordd yn y diwydiant neu wedi bod yn gweithio ynddo ers blynyddoedd, dyma gyfle i gwrdd â chyfoedion, cyfnewid syniadau a meddwl gyda’n gilydd am yr hyn sydd nesaf.
Pryd?
1:00 – 4:00pm, dydd Sadwrn 10 Hydref 2026.
Ble?
Canopi,
59-61 Tudor Street,
Caerdydd
CF11 6AD
Beth allaf ei ddisgwyl?
- Rhwydweithio â newyddiadurwyr newydd a phrofiadol
- Mewnwelediad gan newyddiadurwyr a gweithwyr proffesiynol y cyfryngau o bob rhan o’r diwydiant
- Trafodaethau rhyngweithiol a chyfnewid gwybodaeth
- Cyfleoedd i ofyn cwestiynau a chyfrannu eich safbwynt
- Sgwrs onest am gyfeiriad newyddiaduraeth
- Lluniaeth am ddim!
Mae’r digwyddiad am ddim ac yn agored i bawb.
Siaradwyr gwadd arbennig
Manjiri Kulkarni Carey
Mae Manjiri yn newyddiadurwraig brofiadol sydd wedi gweithio ar draws print, radio, teledu a digidol. Yn flaenorol yn Olygydd Arloesi Newyddion i’r BBC, mae hi bellach yn gweithio fel cynghorydd, gan helpu ystafelloedd newyddion ledled y byd wrth iddynt ddarganfod a gweithredu ddeallusrwydd artiffisial.
Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ddarganfod datrysiadau creadigol i heriau newyddiadurwyr ac adeiladu profiadau gwell i’r cynulleidfaoedd. Mae hi hefyd wedi bod yn ymwneud â recriwtio a mentora ac mae’n angerddol am gefnogi newyddiadurwyr ym mhob cam o’u gyrfaoedd.
Gwefan: mkcatelier.com
Maddy Dhesi
Yn wreiddiol o Ogledd Cymru, mae Maddy Dhesi yn weithiwr proffesiynol ym maes cyfathrebu digidol sy’n gweithio hefyd ym meysydd materion cyhoeddus a gwleidyddiaeth. Maddy yw cyd-sylfaenydd a Phennaeth Gweithrediadau Senedd Explained, cyfres o lwyfannau sy’n anelu at bontio’r bwlch rhwng pobl a gwleidyddiaeth Cymru.
Instagram, TikTok, Threads, LinkedIn a Substack: @SeneddExplained
LinkedIn: Maddy Dhesi
Sofia Ellen Lewis
Mae Sofia Ellen Lewis yn newyddiadurwraig i ITV Wales, gan weithio ar draws darlledu a llwyfannau digidol ar newyddion brys, gwleidyddiaeth, ymchwiliadau a rhaglenni arbennig. Yn 2026, hi oedd y Cymrawd Cynefin cyntaf yn Sefydliad Reuters ar gyfer Astudio Newyddiaduraeth (Reuters Institute for the Study of Journalism), gan ymchwilio newyddiaduraeth er budd y cyhoedd yng Nghymru a sut y gallai wasanaethu cymunedau â lefelau isel o ymgysylltiad gwleidyddol yn well.
Cyn hynny, bu Sofia yn newyddiadurwraig llawrydd gyda gwaith wedi’i gyhoeddi yn The Independent, VICE a Cosmopolitan; mae hi’n angerddol dros ehangu mynediad i’r diwydiant cyfryngau a sicrhau ei fod yn cynrychioli’r cynulleidfaoedd y mae’n eu gwasanaethu yn well. Bu hefyd yn gweithio ar lansiad ‘A Writing Chance’, rhaglen a gyd-sefydlwyd gan Michael Sheen i chwalu rhwystrau i awduron newydd o gefndiroedd dosbarth gweithiol.
Instagram: @sofiaellenlewis
X: @sofiaelew
LinkedIn: Sofia Ellen Lewis
Taya Mwah
Mae Taya Mwah yn berfformiwr ‘drag’ ac yn grewr digidol o Gymru sy’n gweithio ym meysydd newyddiaduraeth a chyflwyno digwyddiadau. Gan gyfuno newyddiaduraeth cwiar â pherfformio a phersonoliaeth ar-lein, mae hi’n defnyddio ei llais i arddangos dilysrwydd, boed hynny ar-lein neu ar y llwyfan.
Cofrestrwch nawr
Llenwch y ffurflen hon erbyn dydd Mercher 7 Hydref, diolch!