Dewch i ddathlu hanfod Cymru gyda ni yng Ngŵyl Lên Llandeilo, digwyddiad llenyddol Cymraeg uchel ei barch ers 2017. Rydym yn gyffrous i gyflwyno trafodaeth ar ein casgliad newydd o ysgrifau, ‘Cymru & I’, am 11yb ar ddydd Sul, 28ain Ebrill.
Cynhelir y sesiwn gan Shirish Kulkarni o Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, a bydd y sesiwn yn cynnwys darlleniadau a mewnwelediadau gan y cyfranwyr Tia-zakura Camilleri, Alys Roberts, ac Anthony Shapland. Byddant yn rhannu eu profiadau gyda ‘Cymru & I’ ac yn treiddio i fyfyrdodau’r gyfrol ar y Gymru gyfoes a’r dyfodol.
Mae ‘Cymru & I’ yn cynnig brithwaith o hunaniaethau Cymreig, gan gyflwyno straeon sy’n amlygu materion integreiddio, iaith, derbyn, a mwy. Bwriad y casgliad hwn, mewn partneriaeth â Seren Books, yw arddangos safbwyntiau amrywiol ar fod yn Gymro, gan gynnwys lleisiau o gymunedau mewnfudwyr, niwroddargyfeiriol, LHDTC+, a dosbarth gweithiol.
Archwiliwch natur amlochrog hunaniaeth Gymreig a chyfrannu at y sgwrs ar dirwedd esblygol Cymru.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar gaelnawr.
Gellir prynu’r llyfr ‘Cymru & I’ar-lein neu mewn siopau llyfrau lleol.
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a’n Sesiynau Rhwydweithio ac Arddangos
Ymunwch â ni ar gyfer ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, lansiad llyfr a pharti yn Chapter ar 23 Medi
Archebwch eich tocyn