Ysgrifennu er Newid: Sut Gall Geiriau Adeiladu Cymdeithas Well

05/10/2026 | Inclusive Journalism Cymru

Y llynedd, yn ystod yr hyn dw i wedi bod yn ei ddisgrifio fel ‘ailgyfeirio canol oed’, fe wnes i un cais petrus am PhD mewn Ysgrifennu Creadigol. Doedd e ddim yn benderfyniad bach. Roedd gen i yrfa hir a sefydlog yn arwain tîm cyfathrebu ac ymgysylltu â chwsmeriaid mewn darparwr tai cymdeithasol enfawr. Byddai ymgymryd â’r PhD yn golygu dychwelyd i’r byd academaidd 15 mlynedd lawn ar ôl i mi ei adael. Byddwn i’n haneru fy incwm, yn atal fy nghynnydd gyrfaol ac yn peidio â thalu i mewn i’m pensiwn ar adeg pan ddylwn i, mewn gwirionedd, fod yn cynllunio ar gyfer henaint. 

Ond ar ôl bron i ddau ddegawd a chyfres o drasiedïau tai difrifol, gan gynnwys tân Tŵr Grenfell a marwolaeth Awaab Ishak o ganlyniad i leithder a llwydni yn ei gartref cymdeithasol, doeddwn i ddim yn gallu anwybyddu’r peth oedd yn cnoi ar fy enaid.

Roedd pydredd wedi cydio drwy’r sector, ac roeddwn i eisiau gwneud mwy i’w ddileu. Roeddwn i’n gweld, fel mae llawer ohonom ni, hen broblemau’n dechrau ymddangos eto. Roedd amrywiaeth timau arwain, a fu unwaith ar gynnydd, yn llithro’n ôl. Roedd adroddiadau’r sector ar y bwlch cyflog ethnigrwydd yn dangos patrwm o fenywod Du yn cael eu dal mewn swyddi rheoli canol tra bod eu cyfoedion yn symud ymlaen, ac roeddwn i’n bendant yn un ohonyn nhw. Roedd achosion o droseddau casineb mewn cymunedau ar gynnydd. Fel cadeirydd rhwydwaith cydraddoldeb hiliol, roeddwn i’n clywed straeon am ddarparwyr yn tynnu’n ôl o ymrwymiadau i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. 

Roedd terfynau i’m rôl, a oedd yn canolbwyntio ar anghenion a dymuniadau preswylwyr. Pe bai rhywun yn gofyn, roedd gen i esboniad bach taclus am waith fy nhîm. Ein rôl ni oedd sicrhau bod gan bobl ddylanwad ar y ffordd mae eu gwasanaethau’n cael eu rhedeg, a bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i reoli eu cartref a’u tenantiaeth ac i ffynnu yn eu cymuned. Doedd ein gwaith ni ddim yn ymwneud â gofyn pethau i bobl, neu ddweud pethau wrthyn nhw, yn unig; roedd yn ymwneud â gwneud hynny mewn ffordd oedd yn ychwanegu gwerth go iawn at eu bywydau. 

Dw i’n credu bod degau o filoedd o staff cymdeithasau tai a chynghorau yn gwneud eu gorau, ond dydy ein hymdrechion tameidiog ddim yn mynd i arwain at welliant ar y cyd. Mewn cymdeithasau tai ledled y DU, mae gan staff a chwsmeriaid syniadau gwych am wella tai a chymunedau, ond os nad yw’r syniadau hynny’n cyd-fynd â’r model gweithredu, rheoleiddio tai cymdeithasol neu ddeddfwriaeth ehangach, does dim modd eu rhoi ar waith. Felly rydyn ni’n gwneud newidiadau tameidiog, gan ychwanegu atebion at systemau amherffaith yn hytrach nag adeiladu rhywbeth newydd sy’n gweithio. Gyda’r ysbryd ‘gallwn ni wneud hyn’ daw torcalon cyson. Pan rydych chi’n teimlo na allwch chi ddarparu’r gwasanaeth mae eich cwsmeriaid yn ei haeddu, mae’n dorcalonnus. 

Felly dechreuais ofyn i mi fy hun: sut alla i greu newid, newid go iawn? Fy mhrif sgil i yw, ac mae wastad wedi bod, y gair ysgrifenedig. Felly sut allwn i ddefnyddio geiriau i drwsio tai?

"Os ydych chi’n meddwl am fynd i mewn i unrhyw fath o ysgrifennu, boed hynny’n newyddiaduraeth, ymchwil neu ysgrifennu creadigol, cofiwch un peth: Mae lle i chi yno. Peidiwch â gadael i neb ddweud wrthych nad oes."

Jade Bradford

Ysgrifennwr

Mae llawer o dystiolaeth yn awgrymu bod y stigma o amgylch tai cymdeithasol ac ‘ystadau cyngor’ yn cael effaith negyddol ar fywydau a chanlyniadau’r bobl sy’n byw ynddyn nhw. Meddyliwch am y darluniau rydych chi’n eu gweld yn y cyfryngau. Ydych chi’n gweld cymunedau cytbwys gyda sawl math gwahanol o bobl, neu raglenni un-dimensiwn fel Benefits Street? Dydy’r ffordd mae pobl yn siarad am dai cymdeithasol ddim yn cyd-fynd â’n profiadau niferus ac amrywiol ni o fyw mewn tai cymdeithasol. Mae’r dystiolaeth i gyd yno, yn amlwg: tystiolaeth anecdotaidd ac academaidd, profiad byw, arbenigedd proffesiynol, mewn miloedd o lyfrau. Bob dydd, mae un o’r prif gyfryngau newyddion yn cyhoeddi erthygl am rywbeth ofnadwy sy’n digwydd i denant tai cymdeithasol. Felly pam nad oes mwy o bobl yn malio?

Mae fy ymchwil, felly, yn edrych ar sut gallwn ddefnyddio ysgrifennu creadigol i fynd i’r afael â stigma tai cymdeithasol, codi ymwybyddiaeth a gwneud i fwy o bobl falio. Mae dwsinau o enghreifftiau o sut mae hyn wedi gweithio yn y gorffennol, ond edrychwch ar gwpl o enghreifftiau diweddar, pethau fel Mr Bates vs the Post Office neu Adolescence. Doedden nhw ddim yn bethau roedd pobl yn siarad amdanyn nhw gartref yn unig. Cawson nhw sylw helaeth yn y cyfryngau, gan ddenu sylw sefydliadau a chyrff llywodraethu. Cafodd y materion eu trafod yn y senedd. Fe wnaethon nhw danio ymwybyddiaeth a newid bron yn syth. Ond nid nhw oedd y cyntaf i ddweud wrthym am sgandal Horizon Swyddfa’r Post, nac am y manosffer. Felly dw i eisiau deall pam mae’n cymryd darn o gelf mor aml i gael ein sylw, a sut alla i gipio’r effaith honno a gwneud i fwy o bobl deimlo dicter am effeithiau eang argyfwng tai parhaus?

Mae gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae wrth greu newid cymdeithasol, ac mae sut mae hynny’n edrych yn dibynnu arnoch chi. Does dim rhaid i chi fod yn brif weithredwr, yn brif weinidog nac wedi denu cynulleidfa fyd-eang fel Greta Thunberg. Does dim rhaid i chi fod yn eithriadol o freintiedig nac â chysylltiadau, na nabod rhywun sy’n nabod rhywun. Mae gwneud yr hyn gallwch chi gyda’r adnoddau a’r egni sydd gennych chi yn ddigon. 

Os ydych chi’n meddwl am fynd i mewn i unrhyw fath o ysgrifennu, boed hynny’n newyddiaduraeth, ymchwil neu ysgrifennu creadigol, cofiwch un peth: Mae lle i chi yno. Peidiwch â gadael i neb ddweud wrthych nad oes. Weithiau, fel pobl o gymunedau sydd ar yr ymylon, pan mae’r stigma am ein cymunedau yn dweud wrth eraill nad ydyn ni wedi’n creu i lwyddo, ein hymateb diofyn ni yw meddwl na fydd croeso i ni mewn mannau newydd. Mae’r teimlad hwnnw’n gryfach nag erioed eleni. Ond credwch fi pan dw i’n dweud bod pobl ym mhobman yn agor drysau i ni, ac dw i wedi profi hyn yn fwy yng Nghymru nag yn unrhyw le arall. Rydych chi’n haeddu teimlo eich bod yn cael eich cynnwys. Nid troi i fyny mewn sefydliad sy’n eich gwneud chi’n anhapus a dioddef drwy’r cyfan yw eich rôl. Gallwch chi gael gwell. Ac mae gennych chi hawl i ofyn am help. Byddai’n syndod i chi faint o bobl fydd yn fodlon rhoi ychydig o’u hamser i chi. 

Mae gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae wrth greu’r newid rydyn ni ei eisiau, yn lleol ac yn fyd-eang. Dw i’n gweld llawer o rethreg ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n dweud, os nad ydych chi’n postio am faterion penodol, nad ydych chi’n rhan o’r ateb. Ond dydy hynny ddim yn wir. Mae llawer o ffyrdd defnyddiol, a gellid dadlau mwy defnyddiol, o greu newid cymdeithasol. Os nad ydych chi’n ofni sgyrsiau anodd, gall newid meddwl un person yn unig greu effaith donnog sy’n atal ffasgiaeth rhag lledaenu yn eich cornel fach chi o’r byd. Os ydych chi’n wych gyda phobl, gallech edrych ar drefnu cymunedol, gan wella pŵer cydfargeinio eich ardal leol. Gofyn cwestiynau treiddgar, bod yn graff wrth wirio ffeithiau, deall agendâu’r cyfryngau a dysgu mwy am y materion rydyn ni’n eu hwynebu heddiw a sut maen nhw i gyd yn gysylltiedig yw rhai o’r pethau mwyaf pwerus y gallwch chi eu gwneud. 

Un peth syml sy’n fy ngyrru. Dw i’n credu’n gryf fod pob un person yn haeddu rhywle gweddus i fyw, waeth faint o arian sydd ganddyn nhw, pwy ydyn nhw neu o ble maen nhw’n dod. Ni ddylai neb orfod poeni a yw eu cartref yn ddiogel, nac a yw ansawdd yr aer yn eu cymdogaeth yn mynd i’w lladd nhw neu’r bobl maen nhw’n eu caru. Ni ddylai neb deimlo na fyddan nhw’n cael cynnig swydd oherwydd eu cod post. Tai cymdeithasol fydd fy nghartref i bob amser, hyd yn oed os nad ydw i’n gweithio yn y sector bellach. Fy rôl i nawr yw edrych arno o ymyl y ffordd a gweithio allan pa waith adnewyddu sydd ei angen arno, gan ddefnyddio straeon ac ymchwil fel fy offer.

Mae Jade E. Bradford yn awdur, yn gyfathrebwr ac yn fyfyriwr PhD sy’n byw yn y Barri, De Cymru. Gallwch ei dilyn ar LinkedIn, Instagram neu Substack.